Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Neil Barnett Cynghorydd Craffu
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o ddiddordeb Cofnodion: Dim. |
|
Diweddariad o Waith Monitro'r Gwasanaeth Adnoddau a Rennir Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn bresennol: - Matt Lewis – Prif Swyddog Gweithredu, Gwasanaeth Adnoddau a Rennir - Kath Bevan-Seymour – Dirprwy Brif Swyddog Gweithredu, Gwasanaeth Adnoddau a Rennir - Mike Doverman – Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Gweithrediadau), Gwasanaeth Adnoddau a Rennir - Sarah Stephens – Arweinydd Ysgolion, Gwasanaeth Adnoddau a Rennir - Rhys Cornwall – Cyfarwyddwr Strategol, Corfforaethol a Thrawsnewid - Tracy McKim – Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid - Mark Bleazard – Rheolwr Gwasanaethau Digidol - Y Cynghorydd Dimitri Batrouni – Aelod Cabinet dros Drawsnewid Sefydliadol
Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaeth yr adroddiad, a gofynnodd i'r pwyllgor fyfyrio ar berfformiad y llynedd a thrafod y bartneriaeth. Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Digidol drosolwg byr o’r rôl ddigidol a ystyrir yn rhan o'r sefydliad. Rhoddodd y Prif Swyddog Gweithredu gyflwyniad i'r pwyllgor a oedd yn crynhoi'r gyllideb flynyddol a ffigurau megis nifer eu cwsmeriaid. Hysbyswyd yr aelodau am y fframwaith, a chawsant eu sicrhau bod cynrychiolaeth eang ar eu byrddau. Dangoswyd bod y partneriaid yn myfyrio ar yr hyn y mae eu cwsmeriaid yn dymuno ei gael. Amlygwyd bod eu cyllideb yn is na'r llynedd. Nododd y Prif Swyddog Gweithredu fod hyn yn gamp ac yn profi'r rhan helaeth o'r achos busnes, sef bod cydweithio yn lleihau costau. Hysbyswyd yr aelodau o'r astudiaeth achos yn yr adroddiad sy'n dangos pam fod y costau hynny'n lleihau wrth edrych tuag at y dyfodol.
Gofynnodd y pwyllgor y canlynol:
• Gwnaed sylw gan aelod fod recriwtio i'r maes TG yn her, a gofynnodd i'r partneriaid p’un a oeddent yn credu y byddai hynny'n gwella yn y dyfodol agos.
Eglurodd y Prif Swyddog Gweithredu (Gwasanaeth Adnoddau a Rennir) fod y trafferthion a geir i gyflogi fel arfer yn broblem gylchol. Efallai ymhen 12-18 mis y bydd gr?p o bobl yn barod ar gyfer y rolau. Mae rhai enghreifftiau o waith cymorth i'w weld, ond mae'n anodd dal i fyny â'r gystadleuaeth o’r farchnad allanol. Mae tîm y Gwasanaeth Adnoddau a Rennir yn denu prentisiaid ac yn helpu staff mewnol i symud drwy'r sefydliad trwy gynnig cyfleoedd hyfforddi a datblygu.
• Gofynnodd yr aelod p’un a yw'r Gwasanaeth Adnoddau a Rennir yn cysylltu â phrifysgolion i recriwtio pobl.
Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredu fod ganddynt dîm sy'n hyfforddi unigolion yn y brifysgol a chynllun newydd i gysylltu â phobl o ardaloedd eraill. Rhoddwyd enghraifft lle byddent yn cynnig swydd i rywun ac y byddent yn cael ymgeiswyr hyd at ddiwrnod ynghynt yn gwrthod y swydd gan y byddent wedi cael cynnig swydd gyda gwahaniaeth bach, megis mwy o wyliau. Fodd bynnag, nododd y swyddog fod y rhan fwyaf yn ceisio am swyddi yn y sector preifat er mwyn cael cynnig swydd gyda chyflog sydd oddeutu 20 mil yn fwy y flwyddyn. Teimlai'r Pennaeth Gwasanaeth ei bod yn bwysig nodi bod y gwaith pwynt mynediad yn dda o safbwynt cydraddoldeb gan eu bod yn cynnig cyfleoedd nad ydynt efallai wedi'u cael o'r blaen, sydd yn fantais sydd ynghlwm wrth y dull hwn.
• Roedd aelod o’r pwyllgor yn cydnabod bod llawer o ... view the full Cofnodion text for item 2. |
|
Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2021/22 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gwahoddedigion: - Natalie Poyner – Pennaeth Gwasanaethau Plant - Finn Madell – Pennaeth Diogelu Corfforaethol - Amy Thomas - Prif Gynghorydd Rhanbarthol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol - Sally Ann Jenkins – Cyfarwyddwr Strategol, Gwasanaethau Cymdeithasol
Darparodd y Prif Gynghorydd Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol drosolwg i’r pwyllgor o'r tîm Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, sy’n ceisio amddiffyn menywod rhag pob math o gamdriniaeth. Casnewydd yw lleoliad y tîm Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol rhanbarthol, o dan Ddeddf 2015. Hysbyswyd yr aelodau am y cyfarwyddebau a grybwyllwyd yn yr adroddiad, megis sut y gall cam-drin domestig ymhlith pobl h?n fod yn rhwystr, yn ogystal â chaethwasiaeth fodern, atal hunanladdiad ymhlith dynion, prosiect sbectrwm gydag ysgolion, a phrosiectau sydd wedi'u cyflwyno yng Ngwent.
Amlygwyd mai ymgysylltu â goroeswyr fu eu prif gyflawniad, gan eu bod wedi datblygu rhwydwaith cryf o oroeswyr sy'n ymgysylltu â'r tîm ac yn cydweithio â nhw i yrru'r gwaith yn ei flaen. Mae asiantaethau hefyd wedi bod yn allweddol i'r bartneriaeth. Hysbyswyd yr aelodau bod 2021-2022 wedi bod yn flwyddyn gadarnhaol o ystyried yr heriau a wynebwyd yn dilyn y pandemig. Sicrhawyd llwyddiant o ganlyniad i ymrwymiad y gweithlu, a aeth ati i rannu'r arferion gorau, er gwaethaf y ffaith eu bod yn wynebu heriau a phwysau.
Cododd y pwyllgor y pwyntiau a ganlyn:
· Roedd aelod yn dymuno cadarnhau p’un a yw eu gwaith yn ymwneud â dynion sy'n wynebu cam-drin domestig.
Dywedodd yr Arweinydd Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol fod eu gwaith yn cynnwys pob rhyw, ond gan mai'r Swyddfa Gartref sy'n gyfrifol am y gwasanaeth, mae'r teitl trosfwaol yn parhau i gael ei ddefnyddio, er ei fod yn gwasanaethu pob rhyw. Cytunodd yr Arweinydd Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Thywiol i ddarparu mwy o ddata ar yr enghreifftiau o achosion sy’n ymwneud ag unigolion gwrywaidd yng Ngwent. Gan fod dau ddyn ar gyfartaledd yn cael eu hystyried i fod mewn risg uchel o gam-drin domestig ac angen ymateb gan asiantaeth.
· Diolchodd aelod am y cyflwyniad a gofynnodd beth yw'r cynnydd mwyaf arwyddocaol mae'r partner wedi'i weld yn y blynyddoedd diwethaf.
Ymatebodd y Cyfarwyddwr Strategol drwy ddatgan, pe baent yn edrych yn ôl mewn amser ers deddfwriaeth 2015, fod dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth pobl o fathau eraill o gamdriniaeth, megis rheolaeth orfodol, wedi cynyddu. Yn 2015, roedd dealltwriaeth gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd o gamdriniaeth emosiynol yn llawer gwannach. Yn ogystal â hyn, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o effaith cam-drin domestig ar blant. Teimlai'r cyfarwyddwr ei bod yn bwysig tynnu sylw at hyn gan y byddai'n cyfrannu at yr ysfa gynyddol i wrthod goddef trais a'r effaith y mae'n ei hachosi.
· Awgrymodd y cadeirydd y dylai Cyngor Dinas Casnewydd drefnu sesiwn ar gyfer yr holl aelodau i godi ymwybyddiaeth am bynciau o'r fath ac ennyn dealltwriaeth.
Eglurodd yr Arweinydd Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol fod pecyn hyfforddi wedi'i ddatblygu ar gyfer ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Adroddiad Cynghorydd Craffu a) Diweddariad ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol (Atodiad 1) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwahoddedig: - Neil Barnett (Cynghorydd Craffu)
Dywedodd y Cynghorydd Craffu wrth y pwyllgor am yr eitemau ar agenda'r ddau gyfarfod nesaf, sef:
Dydd Mercher 8 Chwefror Gwasanaeth Cyflawni Addysg – Cynllun Busnes Diweddariad Perfformiad Ch2 Cynllun Llesiant Casnewydd yn Un
Dydd Mercher 8 Mawrth Diweddariad Casnewydd Ddiogelach – Partneriaeth Diogelwch Cymunedol
Daeth y cyfarfod i ben am 4.52 pm
|