1. A-Y o’n Gwasanaethau
  2. A
  3. B
  4. C
  5. Ch
  6. D
  7. Dd
  8. E
  9. F
  10. Ff
  11. G
  12. Ng
  13. H
  14. I
  15. L
  16. Ll
  17. M
  18. N
  19. O
  20. P
  21. Ph
  22. R
  23. Rh
  24. S
  25. T
  26. Th
  27. U
  28. W
  29. Y

Agenda and minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Neil Barnett  Cynghorydd Craffu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Dim.

2.

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent - Cynllun Llesiant Drafft 2023-2028 pdf icon PDF 175 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddedigion:

-       Rhys Cornwall – Cyfarwyddwr Strategol – Trawsnewid a Chorfforaethol

-       Tracy McKim – Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid

-       Janice Dent – Rheolwr Polisi a Phartneriaethau

-       Nicola Dance – Uwch-swyddog Polisi a Phartneriaethau

 

Cyflwynodd y Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid y tîm polisi i'r pwyllgor a rhoddodd drosolwg byr o gefndir y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Trafododd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau y saith amcan llesiant, ac eglurodd fod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cynnwys aelodau o ystod o gyrff cyhoeddus. O safbwynt Casnewydd, yr Arweinydd a’r Prif Weithredwr yw’r cynrychiolwyr sydd ar y bwrdd ac sy'n sicrhau eu bod yn cael eu clywed ar lefel Gwent. Rhoddodd y swyddog sicrwydd i'r pwyllgor fod ymgysylltiad da â phartneriaid.

 

Aeth y swyddog dros yr amserlen ymgynghori 12 wythnos ar gyfer y cynllun, gan egluro y byddai’r fersiwn terfynol yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor ar gyfer ei fabwysiadu a’i gymeradwyo ym mis Chwefror 2023. Bydd yr adroddiad wedyn yn cael ei gwblhau a'i gyfieithu cyn cael ei gyhoeddi ym mis Mai 2023, gyda’r amcanion newydd yn dod i rym o fis Mehefin 2023 ymlaen. Mae Partneriaeth Casnewydd yn Un yn parhau â’i gwaith o gyflawni’r cynllun llesiant presennol ar gyfer 2019-23, a bydd yn gyfrifol am y gwaith o gyflawni amcanion llesiant Gwent yn lleol o fis Mehefin 2023 ymlaen drwy gynllun gweithredu lleol.

 

Gofynnodd y pwyllgor y canlynol:

         Yn Amcan 2 y cynllun, teimlai’r pwyllgor y byddai rhoi mwy o bwyslais ar fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gam a fyddai'n cael ei groesawu, gan gynnwys sut y bydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent yn mesur ac yn monitro gwelliannau a’r cynnydd a wnaed.

 

Eglurodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau mai dyna’r math o wybodaeth y mae angen iddynt ei bwydo’n ôl i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i’w hystyried ar gyfer y cynlluniau terfynol, ac ar gyfer edrych arni o safbwynt Casnewydd.

 

Roedd Pennaeth y Gwasanaeth yn cydnabod bod trafod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn bwysig, gan ei fod yn nodi materion na all un partner yn unig eu datrys. Crybwyllwyd enghraifft ble mae sectorau eraill, megis y sector tai a'r sector mannau gwyrdd, i gyd yn cydweithio’n barod i gefnogi’r gwaith sy’n mynd rhagddo. Mae’r cynllun yn ymwneud â’r gwaith a allai fod o gymorth i wahanol gyrff ac yn edrych ar yr hyn y gellir ei wneud fel gr?p i helpu gwahanol fentrau. Gwaith tîm y bartneriaeth yw nodi’r hyn sy’n bwysig.

 

         Teimlai aelod, pe bai'r cynllun yn un generig gydag ond un cymhelliad i bawb, na fyddai'n gweithio gan fod rhanbarth Gwent yn cynnwys rhannau amrywiol. Dywedodd yr aelod fod angen iddynt feddwl am genedlaethau’r dyfodol, a mynegodd ei bryder am yr angen i ddiogelu’r dyfodol yng Nghasnewydd i’w cadw’n gydnerth rhag newid hinsawdd, gan eu bod yn wynebu heriau gwahanol i ranbarthau eraill megis y Cymoedd.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau at bwynt a gododd yn y cyflwyniad yngl?n â sut y caiff y gwaith ei rannu ac y bydd yr asesiad  ...  view the full Cofnodion text for item 2.

3.

Datblygu Pwyllgor Craffu Rhanbarthol ar gyfer Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent pdf icon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddedigion:

-       Rhys Cornwall – Cyfarwyddwr Strategol Trawsnewid

-       Tracy McKim – Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid

-       Janice Dent – Rheolwr Polisi a Phartneriaethau

-       Nicola Dance – Uwch-swyddog Polisi a Phartneriaethau

 

Cyflwynodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau’r adroddiad i’r pwyllgor ac esboniodd yr amserlen a fydd yn arwain at gyhoeddi’r adroddiad ym mis Mai 2023. Mynegodd y gobaith y bydd yn cael ei drafod mewn cyfarfod o’r cyngor llawn a gynhelir ym mis Chwefror 2023.  Gofynnwyd i'r pwyllgor dderbyn a nodi datblygiad pwyllgor craffu rhanbarthol newydd a fydd yn bwrw ymlaen â'r dyletswyddau o dan adran 35 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac argymell bod y cyngor llawn yn cymeradwyo’r trefniadau hyn a'u mabwysiadu.

 

Unwaith y bydd y Pwyllgor Craffu Rhanbarthol wedi'i sefydlu, bydd angen i'r aelodau ystyried y cylch gorchwyl ar gyfer craffu partneriaethau, a fydd yn cynnwys Casnewydd Ddiogelach a Phartneriaeth Diogelwch Cymunedol Casnewydd. Cyfeiriwyd yr aelodau at dudalennau 23-26 ar gyfer y cylch gorchwyl, ac fe’u hatgoffwyd mai Casnewydd yn Un yw’r gr?p cyflawni lleol o hyd gan fod angen craffu ar lefel leol yn ogystal â lefel ranbarthol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Os cytunir i fynd â'r mater ger bron y cyngor llawn i'w fabwysiadu, byddai dau aelod yn cael eu henwebu i fod ar y pwyllgor. Dywedwyd wrth yr aelodau mai eu tasg fyddai ystyried pa mor hyderus ydynt fod aelodaeth Gwent o gymorth i Gasnewydd.

 

Gofynnodd yr aelodau’r canlynol:

 

·         Teimlai'r cadeirydd y byddai'n ddefnyddiol arsylwi ar ba waith sy'n mynd rhagddo yn rhanbarthol ac y dylai'r swyddogion gyflwyno'r darganfyddiadau i'r pwyllgor er gwybodaeth.

 

Roedd Pennaeth y Gwasanaeth am bwysleisio bod hyn yn rhoi'r cyfle i'r pwyllgor ailystyried y cylch gorchwyl a datgysylltu partneriaethau diogelwch cymunedol a allai fod o dan yr ymbarél ac edrych ar faterion lleol eraill.

 

·         Ceisiodd aelod pwyllgor gael eglurhad i p'un a fyddai'r gynrychiolaeth ar gyfer Casnewydd yn cael ei chylchdro yn y cyfarfodydd rhanbarthol.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaeth, pe bai gan aelod farn, y dylai ei rhannu yn y cyfarfod presennol. Dywedwyd wrth yr aelodau mai penderfyniad y cyngor fyddai hwnnw fel y gallai'r holl aelodau benderfynu.

 

Yn ychwanegol i hyn, roedd yr aelod yn gwerthfawrogi bod angen ystyried cyfyngiadau amser a bod rhaid iddynt fod â meddwl agored yngl?n â lleoliad y cyfarfod, a chytunodd Pennaeth y Gwasanaeth fod lleoliad y cyfarfod yn bwysig.

 

·         Dywedodd yr aelodau, os bydd y bwrdd yn cylchdroi, y gellid cynnal cyfarfodydd dros Microsoft Teams i osgoi teithiau hir, ond roeddent yn cwestiynu pa mor effeithiol fyddai hynny.

 

Diolchodd aelodau'r pwyllgor i'r holl swyddogion am eu hamser a'u cyflwyniad.

 

Casgliadau

-          Nododd y pwyllgor ddatblygiad y Pwyllgor Craffu Rhanbarthol, a chytunwyd y dylid mynd â'r mater gerbron cyfarfod o’r cyngor llawn ym mis Chwefror 2023 i'w fabwysiadu, a chytunwyd ar y cylch gorchwyl. Yn y cylch gorchwyl, dymunai'r aelodau nodi y dylai pob cyfarfod gael ei gynnig ar ffurf hybrid dros Teams o leiaf, fel y gallai aelodau o wahanol awdurdodau lleol fynychu'r cyfarfod os na allant  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Adroddiad Cynghorydd Craffu pdf icon PDF 136 KB

a)      Forward Work Programme Update (Appendix 1)

b)      Actions Plan (Appendix 2)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddedig:

-          Neil Barnett – Cynghorydd Craffu

 

a)    Diweddariad ar y Flaenraglen Waith (Atodiad 1)

 

Rhannodd y Cynghorydd Craffu fanylion eitemau'r agenda ar gyfer dau gyfarfod nesaf y pwyllgor:

 

Dydd Mercher 7 Rhagfyr 4.30pm

-          Diweddariad ar Drais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

-          Diweddariad ar Fonitro Gwasanaethau Adnoddau a Rennir

 

Dydd Mercher, 8 Chwefror 2023, 5pm

-          Cynllun Busnes y Gwasanaeth Cyflawni Addysg

-          Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 Casnewydd yn Un

 

b)    Cynllun Camau Gweithredu (Atodiad 2)

Hysbysodd y Cynghorydd Craffu y pwyllgor fod gan Roxanne Green a Sally Anne Jenkins rai camau gweithredu ar y gweill gan fod y swyddog yn disgwyl am wybodaeth ganddynt.

 

 

5.

Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf pdf icon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwyodd a derbyniodd yr aelodau gofnodion y ddau gyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Hydref 2022 a 9 Tachwedd 2022 fel cofnod cywir o’r cyfarfod.

 

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 6.40 pm