Cyswllt: Governance Team Leader Ffôn: 01633 656656
Rhif | eitem |
---|---|
Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Adfywio a Thai : 2019/10 - Debenhams yn Friars Walk Cofnodion: Gofynnodd y Cynghorydd Kellaway:
Oherwydd y perygl y bydd y siop yn cau ac effaith hynny ar Friars Walk, allwch chi gadarnhau pa gamau rydych wedi'u cymryd i gefnogi Debenhams yn ystod y 12 mis diwethaf.
Ymatebodd y Cynghorydd Jane Mudd:
Nid yw'r Cyngor wedi cael unrhyw wybodaeth hyd yma y byddai’r newyddion diweddar am gau siopau yn effeithio ar siop Debenhams yng Nghasnewydd, fodd bynnag, rwyf wedi gofyn i swyddogion barhau i gydgysylltu â pherchnogion Friars Walk a monitro'r sefyllfa.
|