Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau'r : 2019/13 - Gwastraff ac Ailgylchu Cofnodion:
Gofynnodd y Cynghorydd Fouweather:
Mae'r wybodaeth ddiweddar a roddoch i mi yngl?n â chyhoeddi hysbysiadau cosb benodedig yn dangos gostyngiad sylweddol yn nifer yr hysbysiadau a gyflwynwyd. A allwch egluro i mi pam mae hyn wedi digwydd a’r gyllideb ar gyfer glanhau wedi cynyddu oherwydd swm y sbwriel a ollyngir.
Mae arweinydd y cyngor wedi honni y bu gostyngiad gan 30% yn swm y sbwriel ers i'r biniau llai newydd gael eu cyflwyno, mae hi hefyd wedi honni bod casgliadau ailgylchu a gwastraff bwyd wedi gwella gan 25%. Felly fyddech chi gystal ag ateb y canlynol. Gan fod yr arweinydd wedi gwneud y datganiad cyhoeddus hwn bydd y wybodaeth y gofynnwyd amdani i'r cwestiynau isod ar gael.
1 Oes unrhyw gynnydd wedi bod yn faint caiff y safle tirlenwi ei ddefnyddio ers cyflwyno'r biniau llai?
2 Oes unrhyw gynnydd wedi bod yng nghostau rhedeg y safle tirlenwi ers cyflwyno'r biniau llai?
3 Ydy’r Cyngor wedi mynd i unrhyw gostau oherwydd y tagfeydd traffig ar yr SDR a achosir gan bobl yn ciwio i fynd i mewn i'r safle tirlenwi?
4 Oes unrhyw gynnydd wedi bod yn swm y gwastraff sydd yn y safle tirlenwi ers cyflwyno'r biniau llai?
5 Mae llawer o drigolion yn cwyno am oriau agor y safle tirlenwi. Oes unrhyw gynlluniau i gynyddu argaeledd y safle i breswylwyr?
Atebodd y Cynghorydd Jeavons:
Yn hanesyddol, dim ond Wardeiniaid Diogelwch Cymunedol sydd wedi rhoi Hysbysiadau Cosb Benodedig, felly nid yw nifer yr hysbysiadau a roddwyd yn ymwneud yn uniongyrchol â'r gyllideb lanhau. Ni oes cynnydd wedi bod o ran yr adnoddau a ddefnyddir. Mae'r unig gynnydd mewn cyllidebau yn ystod y 4 blynedd diwethaf yn ymwneud â chynnydd mewn dyfarniadau cyflog cenedlaethol a chynnwys costau rheoli gweithredol fel rhan o ymarfer i ad-drefnu’r gyllideb.
Ar gyfer mis Ebrill 2018, gwaredwyd 9871 o dunelli yn y safle tirlenwi, ond ar gyfer mis Ebrill 2019, gwaredwyd 9480 o dunelli yn y safle tirlenwi. Fodd bynnag, mae'r safle tirlenwi yn Docks Way yn gyfleuster masnachol ac nid yw ar agor i'r cyhoedd. Mae gwastraff gweddilliol Casnewydd (biniau olwynion) yn mynd i Barc Trident yng Nghaerdydd i'w waredu. O ganlyniad, ni fyddai unrhyw newidiadau yn faint y caiff y safle tirlenwi ei ddefnyddio na swm ... view the full Cofnodion text for item 1. |