Cofnodion

2019/14: Costau Parcio Car - Parc Tredegar, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Llun, 20fed Mai, 2019

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden: 2019/14 - Costau Parcio Car - Parc Tredegar

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd J. Watkins:

 

Ym mis Mawrth rhoddwyd hysbysiad cyhoeddus gan y Cyngor yn rhoi rhybudd o fwriad i gyflwyno taliadau parcio ar y safle. Nododd yr hysbysiad y gallai aelodau o'r cyhoedd wrthwynebu'r cynlluniau drwy ysgrifennu at y Cyngor. 

 

Yn dilyn hynny, danfonwyd 350 o lythyrau gwrthwynebu â llaw gan gr?p dan arweiniad gan Louise Smith yn cynrychioli gymuned Parc Gaer Tredegar, ac amcangyfrifir y gallai'r Post Brenhinol fod wedi anfon 50 i 80 o lythyrau eraill.

Fe'm harweinir i gredu bod Gareth Price wedi anfon y llythyrau hyn ymlaen at yr Aelod Cabinet perthnasol sef chi, neu'r Cynghorydd Debbie Harvey.

 

Credaf fod swm y gwrthwynebiadau cyffredinol i'r cynllun i weithredu taliadau parcio yn sylweddol, ac os felly wnewch chi adolygu'r penderfyniad a chadw parcio am ddim i bawb yn y lleoliad hwn?

 

Ymatebodd y Cynghorydd Harvey:

 

Cawsom 321 o lythyrau yn ymwneud â Pharc Tredegar a Fourteen Locks. Roedd 302 yn ymwneud â Pharc Tredegar yn unig ac roedd pump yn ymwneud â'r ddau safle. Roedd rhan fwyaf y llythyrau yn gopïau o'r un ohebiaeth.

 

Mae swyddogion wedi adolygu'r llythyron ac mae adroddiad yn cael ei baratoi ar fy nghyfer i a'r Aelod Cabinet dros y Strydlun, lle bydd unrhyw faterion perthnasol yn cael sylw. Fodd bynnag, nid yw'r adroddiad hwn yn bwriadu adolygu rhinweddau'r cynigion, y cytunwyd arnynt eisoes yn y cyngor llawn.