Rhif | eitem |
---|---|
Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden: 2019/16 - Parc Sblasio Cofnodion: Gofynnodd y Cynghorydd J. Watkins:
Beth yw'r sefyllfa bresennol o ran adfer yr uchod?
O gofio i ni gael gwybod rhai misoedd yn ôl bod cynlluniau'n cael eu llunio i adfer y cyfleuster hwn ac mewn pryd i ailagor yn haf 2019, nid yw’r cynnydd y mae’r Cyngor wedi’i wneud yn glir. Mae tystiolaeth yn bodoli o ardaloedd eraill bod y fath gyfleuster yn cyfoethogi teuluoedd, gan eu galluogi i fwynhau awyr iach a hwyliog, ynghyd â'r ffaith y gellir rhedeg cyfleusterau o'r fath ar gost niwtral i'r Awdurdod.
Ymatebodd y Cynghorydd Harvey:
Mae'r Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden wrthi'n ystyried opsiynau ar gyfer defnyddio arian adran 106 ar gyfer cyfleoedd hamdden ym Mharc Tredegar.
|