Rhif | eitem |
---|---|
Cwestiwn i'r Dirprwy Arweinydd / Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Asedau: 2019/12 - Mabwysiadu Blwch Ffôn yng Nghaerllion i gadw diffribiliwr a roddwyd gan Grwp Caerllion Cofnodion: Gofynnodd y Cynghorydd J. Watkins:
Gan nad ydw i wedi cael ateb i’r ddau gwestiwn canlynol hyd yn hyn, rwy'n eu gofyn eto, drwy ddull ffurfiol. Faint fyddai’r gost ar y Cyngor o ran yswirio'r blwch ffôn sengl hwn, pe bai’r awdurdod yn cytuno i'w osod? Pam anwybyddoch fy nghais i gyfarfod â chi ac aelod o'r gr?p a oedd yn dymuno rhoi'r diffibriliwr hwn o ystyried bod y fenter hon o fudd iechyd i'r gymuned a bod y gr?p yn gofyn am gyfle i gyflwyno eu hachos?
Atebodd y Cynghorydd Whitcutt:
Drwy ohebiaeth flaenorol rwyf wedi amlinellu sefyllfa'r Cyngor. Ni fyddai'r Cyngor yn yswirio blwch ffôn unigol, felly cyfrifoldeb y gwasanaeth yn y Cyngor fyddai'r gwaith cynnal a chadw, diogelwch ac atgyweiriadau, ac nid ydym mewn sefyllfa i gefnogi hynny. Yn anffodus, nid wyf yn credu y bydd cyfarfod wyneb yn wyneb yn cael unrhyw effaith ar y penderfyniad hwn. Fel y dywedwyd eisoes, byddem yn hapus i ystyried safle arall y mae'r Cyngor yn ei gefnogi ar hyn o bryd (Canolfan Gymunedol).
|