Cofnodion

2019/15: Preswylwyr Glan Llyn, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Iau, 30ain Mai, 2019

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Adfywio a Thai: 2019/15 Preswylwyr Glan Llyn

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd Kellaway:

.

 

Annwyl Aelod Cabinet, hoffwn dynnu eich sylw at y problemau parhaus yn Bridling Crescent a'r cartrefi adfeiliedig a adeiladwyd gan Persimmon ar ddechrau datblygiad Glan Llyn.

 

Ar ôl 4 blynedd, mae preswylwyr yn dal i wynebu cartrefi adfeiliedig a allai fod yn anniogel, chwyn tir hyll 3 troedfedd o uchder a phryderon parhaus ynghylch ymwelwyr digroeso. Mae hyn oll tra mae ffioedd rheoli yn cynyddu a’r dreth gyngor yn cynyddu’n gyflymach nac mewn rhannau eraill yng Nghymru.

 

Byddai preswylwyr yn wirioneddol werthfawrogi cefnogaeth gan y weinyddiaeth hon i sicrhau'r weledigaeth a nodwyd yn yr uwchgynllun gwreiddiol, sef "adeiladau o ansawdd".

 

Allwch chi gadarnhau pa gymorth y byddwch yn ei roi iddynt fel y gallant gyfrannu at y weledigaeth a rennir, sef Glan Llyn?

 

Ymatebodd y Cynghorydd Mudd:

 

Rwy'n ymwybodol eich bod wedi codi'r mater hwn gyda'r tîm Cynllunio o'r blaen a'u bod eisoes yn ymwneud â Sant Modwen a Persimmon Homes ar y mater hwn.

 

Er nad yw ymddangosiad y safle wedi gwarantu ymyrraeth ffurfiol hyd yn hyn, rydym yn parhau i fonitro cyflwr y safle a byddwn yn cymryd unrhyw gamau angenrheidiol pan fo angen. Rwyf wedi gofyn i'm cyd-Aelodau ym maes Diogelu'r Cyhoedd edrych i mewn i unrhyw broblemau llygotach.