Cofnodion

2019/19: Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd Llawn, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Mawrth, 4ydd Mehefin, 2019

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cwestiwn i'r Arweinydd - Cadeirydd y Cabinet: 2019/19 - Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd Llawn

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd C Evans:

 

Fel y gwyddom i gyd mae pobl fel chi a minnau eisoes wedi achosi newid yn yr hinsawdd na mewn ffordd ellir ei wrthdroi i'n planed, ac mae effeithiau hyn i'w teimlo ledled y byd ac yma yng Nghasnewydd.

 

Mae tymereddau byd-eang eisoes wedi cynyddu gan 1 radd Celsius ar lefelau cyn-ddiwydiannol. Mae lefelau CO2 atmosfferig yn uwch na 400 rhan fesul miliwn (ppm).

 

Mae hyn yn llawer mwy na'r 350 ppm a ystyrir yn lefel ddiogel i ddynoliaeth;

Mae angen i gymdeithas newid ei chyfreithiau, trethiant, seilwaith, ac ati, er mwyn gwneud byw carbon isel yn haws a'r norm newydd.

 

Yn anffodus, nid yw ein cynlluniau a'n camau gweithredu presennol yng Nghasnewydd yn ddigon, ni wnaiff biniau llai a chael gwared â chwpanau plastig o ystafell yr aelodau fawr helpu’n fawr.

 

Fydd eich gweinyddiaeth yn dwyn gerbron craffu, o fewn 2 fis, strategaeth lawn ar y newid yn yr hinsawdd i'w hystyried? Mae'n ofidus na allaf ddod o hyd i un yn hawdd ar wefan Cyngor Dinas Casnewydd, a wnewch chi felly o fewn 4 mis, ddod â'r strategaeth newid yn yr hinsawdd gerbron y Cyngor llawn ar gyfer trafodaeth?

 

Gallai dolen at strategaeth newid yn yr hinsawdd dda ar gyfer cyngor arall eich helpu i ddeall ymhellach beth yw strategaeth fel hon:

 

https://www.cambridge.gov.uk/media/3230/climate_change_strategy_2016-21.pdf

 

Atebodd yr Arweinydd:

 

Mae ymrwymiad y Weinyddiaeth hon i fynd i’r afael â materion newid yn yr hinsawdd wedi’i ymwreiddio’n gadarn yn y Cynllun Corfforaethol ac yn amcanion llesiant y Cyngor. Mae cryn dipyn o waith eisoes yn mynd rhagddo i ddatblygu amrywiaeth o strategaethau a mentrau i fynd i'r afael â'r broblem.

 

Mae allyriadau nwyon t? gwydr yn cael eu cynhyrchu'n bennaf gan ffynonellau trafnidiaeth, diwydiant, p?er, domestig ac amaethyddiaeth. Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi datblygu strategaeth teithio cynaliadwy y mae ymgynghoriad cyhoeddus ar waith arni ar hyn o bryd. Nod y strategaeth yw arwain y ddinas at rwydwaith teithio cynaliadwy llygredd isel. Bydd hyn yn gwrthweithio nid yn unig newid yn yr hinsawdd, ond s?n traffig ffyrdd ac ansawdd aer. Gellir gweld y polisi drafft yn:

 

http://www.newport.gov.uk/cy/Transport-Streets/Sustainable-travel.aspx

 

O ran lleihau effaith (uniongyrchol) y Cyngor ei hun ar yr hinsawdd, mae gennym raglen barhaol o weithgareddau a phrojectau lleihau carbon. Caiff ein dull hirdymor ei gyhoeddi yn ein Cynllun Rheoli Carbon cyntaf sy’n cael ei adolygu ar hyn o bryd. Mae'r Cyngor hefyd yn caffael 100% o drydan adnewyddadwy ac yn archwilio opsiynau ynni adnewyddadwy pellach.

 

Gan ei bod yn ddinas arfordirol, bydd seilwaith Casnewydd mewn perygl oherwydd cynnydd yn lefel y môr a nifer o ganlyniadau eraill yn sgil newid yn yr hinsawdd. Bydd llwyddiant neu fethiant ymdrechion i leihau allyriadau nwyon t? gwydr yn pennu difrifoldeb y 'newid'. Mae rhai camau eisoes yn cael eu cymryd o ran amddiffyn rhag llifogydd a chynllunio, ond cytunir bod angen gwneud mwy o waith er mwyn deall yr effaith ar y ddinas yn ei chyfanrwydd.

 

Felly, nid oes angen strategaeth newid yn yr hinsawdd bellach nac unrhyw atgyfeirio  ...  view the full Cofnodion text for item 1.