Rhif | eitem |
---|---|
Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac : 2019/29 - Cynllun Lleihau Carbon Cofnodion: Gofynnodd y Cynghorydd C. Evans:
Allwch chi roi diweddariad i ni ar gynlluniau lleihau carbon eich gweinyddiaeth?Fyddwch chi’n ymrwymo, yn yr un modd â chynghorau eraill, i Gasnewydd yn dod yn garbon-niwtral erbyn 2030 ac felly o bosibl yn cyfyngu ar gynhesu byd-eang i 1.5 gradd?
Atebodd y Cynghorydd Whitcutt:
Mae’r Cymdeithas Llywodraeth Leol wedi datgan argyfwng hinsawdd yng nghynhadledd ddiwedd y CLlL.Cefnogodd y cynnig yr egwyddor bod rhaid i bob lefel llywodraeth gydweithio i weithredu’n llwyddiannus Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.
Mae cynnig y Gymdeithas:
• Yn galw ar Lywodraeth Er Mawrhydi i ystyried cefnogi gweithredu’n ddomestig y Nodau Datblygu Cynaliadwy trwy rolau partneriaeth a ariennir o fewn pob ardal llywodraeth leol; a
• Yn annog cynghorau i barhau i weithio ar gysylltu eu blaenoriaethau lleol ag uchelgeisiau cyffredinol y NDCau.
• Yn datgan ‘Argyfwng Hinsawdd’, ac yn ymrwymo i gefnogi cynghorau yn eu gwaith o fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd trwy gynnig llais cryf wedi’i uno i gynghorau wrth lobio am gefnogaeth i fynd i’r afael â’r argyfwng hwn, a rhannu arfer gorau ym mhob cyngor.
O ran leihau effaith (uniongyrchol) y Cyngor ei hun ar yr hinsawdd, mae gennym raglen barhaol o weithgareddau a phrojectau lleihau carbon.Caiff ein dull hirdymor ei gyhoeddi yn ein Cynllun Rheoli Carbon cyntaf sy’n cael ei adolygu ar hyn o bryd.
|