Cofnodion

2019/30: Llwybrau Trafnidiaeth Ecogyfeillgar, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Llun, 12fed Awst, 2019

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau'r Ddinas: 2019/30 - Llwybrau Trafnidiaeth Ecogyfeillgar

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd C. Evans:

 

Mae dad-droseddoli parcio yng Nghasnewydd yn gyfle perffaith i hybu dulliau ecogyfeillgar amgen o drafnidiaeth.

 

Allwch chi ddweud wrthyf beth mae eich gweinyddiaeth yn ei wneud i hybu trafnidiaeth werdd?

 

A fyddwch yn ymrwymo o leiaf oll i ddarparu rhagor o reseli beiciau diogel, nid yn unig yng nghanol y ddinas ond hefyd ar draws Casnewydd?

 

A fyddwch yn ystyried lansio ymgyrch ymwybyddiaeth i annog plant i feicio i’r ysgol?

 

A hynny cyn Wythnos Genedlaethol ‘Beicio i’r Ysgol’, a gynhelir rhwng dydd llun 23 a dydd Gwener 27 Medi a fyddai’n lleihau tagfeydd, yr anhrefn barcio wrth gatiau’r ysgol ac allyriadau CO2 niweidiol?

 

Fel rhan o’r ymgyrch honno, allech chi wneud ‘llwybrau beicio diogel i’r ysgol’ yn flaenoriaeth i’ch gweinyddiaeth gan sicrhau bod llwybrau beicio i’r ysgol yn ddiogel, yn ddirwystr ac yn llawn golau? 

 

Atebodd y Cynghorydd Jeavons:

 

Trwy’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, mae’r Gr?p Teithio Cynaliadwy yn datblygu cyfres o brojectau a fydd yn gwella trafnidiaeth werdd yn y ddinas.  Amlinellir y cynlluniau hyn yn y Canllaw Cynllunio Atodol ar gyfer Teithio Cynaliadwy sydd wedi’i ddatblygu gan swyddogion cynllunio, amgylcheddol a thrafnidiaeth arbenigol mewn cydweithrediad â phartneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac mae ar fin cael ei ryddhau ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol.

 

Mae cynlluniau eraill yn cynnwys gwaith yn unol â dyletswyddau statudol o dan y Ddeddf Teithio Llesol ac wrth gyflwyno cynlluniau trafnidiaeth lleol trwy gyllid a roddir gan Lywodraeth Cymru.

 

Ar hyn o bryd mae swyddogion yn cwblhau adroddiad i mi ei ystyried pan fydd yn barod, sy’n nodi safleoedd lle gellid creu seilwaith beicio, gan gynnwys gorsafoedd docio ar gyfer cynlluniau llogi yn y dyfodol.

 

Mae hyfedredd beicio’n cael ei gyflwyno i’r awdurdod trwy Casnewydd Fyw a chaiff ei hyrwyddo gan y Cyngor a Chasnewydd Fyw.

 

Mae cyllid Llwybrau Diogel mewn Cymunedau wedi’i ddyrannu i ystyried llwybrau fel rhan o astudiaeth beilot ehangach i annog cerdded a beicio i’r ysgol. Mae’r gwaith ar gyfer eleni’n cael ei gyflawni mewn partneriaeth â Sustrans ac yn canolbwyntio ar Ysgol Dewis Sant.