Rhif | eitem |
---|---|
Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau'r Ddinas: 2019/32 - Menter Plannu Coed Cymru Cofnodion: Gofynnodd y Cynghorydd C. Evans:
Fel rwy’n si?r eich bod yn gwybod, cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan yn ddiweddar gynllun £60 miliwn i blannu 10 miliwn o goed, gan gynnwys 130,000 o goed dinesig yn Lloegr. Fel rydych yn gwybod, bydd coed yn chwarae rôl hanfodol yn y gwaith o leihau allyriadau carbon deuocsid, sy’n cyfrannu’n fawr at newid yn yr hinsawdd.
Gan fod gan goed rôl hanfodol yn y gwaith o gydbwyso lefelau CO2 a lefelau ocsigen, mae datgoedwigo eang ledled y byd hefyd wedi cael effaith negyddol gan ryddhau mwy o CO2 i’r awyrgylch.
Allech chi ddweud wrthyf a ydych wedi lobio eich cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru am fenter plannu coed debyg yng Nghymru? Beth oedd y canlyniad? Oes gan eich gweinyddiaeth unrhyw gynlluniau i annog plannu coed yng Nghasnewydd? Os felly beth yw’r cynlluniau hynny?
Atebodd y Cynghorydd Jeavons:
Mae gan Gasnewydd fwy na 2 miliwn o goed ac mae’n mynd ati i annog plannu 2 goeden am bob 1 pan fo coed y Cyngor wedi marw neu wedi dod yn beryglus. Mae Polisïau Coed a Chanllawiau Cynllunio Atodol ynghylch Coed yn bodoli i ddiogelu coed neu i leihau effaith eu colli.
Hefyd hyrwyddir plannu coed cymunedol a phreifat ledled y Ddinas a rhoddir cyngor a chymorth yn weithredol ym mhob rhan o’r Awdurdod Lleol.
|