Cofnodion

2019/34: Cyfyngiadau Cyflymder y tu Allan i Ysgolion, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Mawrth, 3ydd Medi, 2019

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau'r: 2019/34 - Cyfyngiadau Cyflymder y tu Allan i Ysgolion

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghoryd Mogford:

 

Dylai Diogelwch Ffordd fod o’r pryder mwyaf i’r cyngor.  Yn amlwg, dyw e ddim, fel dengys y dystiolaeth fod yr ymatebion a godwyd gan y cynghorwyr a’r preswylwyr yr ymatebir iddynt yn araf ac yn gostwng.

 

Allai’r Cabinet ateb y cwestiynau canlynol:

 

1) Faint o ysgolion yng Nghasnewydd sydd heb arwydd cyfyngiad cyflymder traffig 20 mya y tu allan i’w mynediad?

 

2) Pam mae Ysgol Langstone, er gwaethaf y ceisiadau niferus a godwyd, yn parhau i fod heb arwydd cyfyngiad cyflymder gorfodol o 20 mya y tu allan i’w fynediad uchaf ar Old Roman Road; mynediad sy’n cael ei ddefnyddio’n barhaus yn ystod oriau ysgol?

 

O ystyried bod y broblem hon wedi codi eto yn y cwestiwn hwn, pa gamau mae’r Aelod Cabinet am eu cymryd nawr i ddatrys y broblem yn ymwneud ag Ysgol Gynradd Langstone A HEFYD fel sy’n briodol mewn unrhyw ysgol arall sydd heb gyfyngiad cyflymder traffig 20mya?

 

Ymatebodd y Cynghorydd Jeavons:

 

Mae tua 51% o ysgolion y ddinas yn cael budd o arwyddion cyfyngiad cyflymder traffig o 20 mya y tu allan i’w prif gatiau mynediad, yn dilyn asesiadau o addasrwydd ac angen ym mhob lleoliad.

 

Nodwyd Ysgol Gynradd Langstone fel un o’r ysgolion y cyflwynwyd cynllun gostegu traffig llawn 20mya wrth brif fynediad yr ysgol ar Heol Tregarn.

 

Ystyriwyd bod mynediad i’r ysgol oddi ar Old Roman Road fel y mynediad cerbydau i’r ysgol, sy’n cael ei gydnabod ymhellach gan ddiffyg unrhyw lwybrau cerddwyr o fewn yr ysgol yn y lleoliad hwn.  Caiff statws y mynediad hwn ei atgyfnerthu ymhellach gan yr arwyddion yn yr ysgol wrth y mynediad “Parcio ar gyfer Staff Awdurdodedig yn Unig.  Maes Parcio i Rieni oddi ar Robin Hood Lane”.

 

Mae Old Roman Road yn ffordd wledig gyda lledau priffyrdd cyfyngedig heb unrhyw lwybrau cerdded i wahanu cerddwyr oddi wrth draffig cerbydau ar ei hyd yn gyfan.

 

Derbynnir y gall cynlluniau 20mya helpu i ddiogelu plant wrth gerdded a beicio yn ôl ac ymlaen o’r ysgol, a gall helpu i annog plant eraill i gerdded neu feicio.

 

Fodd bynnag, gyda chyfleusterau rhagorol wrth y brif fynedfa a’r ysgol yn meddwl ymlaen wrth ddarparu cyfleusterau parcio a gollwng i lawr diogel “ar y safle”,  ymddengys yr angen i hybu’r mynediad llai nag addas ar gyfer cerdded, beicio a gollwng, yn ddiangen ac yn annoeth o safbwynt diogelwch ffyrdd.