Cofnodion

2019/41: Cynnydd Arfaethedig yn y Dreth Gyngor, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Mawrth, 31ain Rhagfyr, 2019

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cwestiwn i'r Arweinydd 2019/41: Cynnydd Arfaethedig yn y Dreth Gyngor

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd C Evans:

 

Annwyl Aelod Cabinet,

 

Fel y gwyddoch, cyhoeddodd eich gweinyddiaeth eich cynnydd arfaethedig o 8% yn y dreth gyngor y diwrnod ar ôl yr Etholiad Cyffredinol. Dim ond wythnos cyn y Nadolig, gan nodi rheolau’r etholiad am oedi’r cyhoeddiad er gwaethaf sawl newyddiadurwr yn dadlau bod y rheolau hyn yn berthnasol i Gynghorau.

 

O ystyried bod eich gweinyddiaeth wedi dweud y bydd yn ‘agored ac yn atebol’, ydych chi’n teimlo eich bod wedi caniatáu digon o amser ar gyfer ymgynghoriad agored ac atebol?

 

Mae llawer yn dweud na. O ystyried hyn a bwriad eich Plaid i ‘wrando’, a fyddwch chi’n ehangu’r cyfnod ymgynghori? Allwch chi ddweud wrth bobl Casnewydd sut ydych chi’n bwriadu ymgynghori ar gynigion y gyllideb a’r cynnydd yn y dreth gyngor?

 

O edrych ar gyfrif Twitter y Cyngor, ar 8.36 ar 17/12/2019, does dim wedi’i nodi mewn perthynas â’r broses ymgynghori; a fyddwch chi’n cynnal cyfarfodydd cyhoeddus gydag aelodau cabinet fel bod modd gwrando ar adborth? Os byddwch, pryd? 

 

Pam na gyhoeddwyd y dyddiadau ar yr un pryd â’r cynnydd yn y dreth gyngor? A fydd uwch swyddogion ar gael ar gyfer cyfarfodydd ward i egluro cynigion eich gweinyddiaeth?

Allwch chi amlinellu llwybr ymgynghori clir os gwelwch yn dda?

 

Atebodd yr Arweinydd:

 

Dechreuodd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar ôl y Cabinet ar 20 Rhagfyr a bydd ar waith tan 31 Ionawr.  Mae hyn oddeutu 6 wythnos ac yn unol â blynyddoedd cynt. Bydd yr ymgynghoriad yn canolbwyntio ar arolwg ar-lein ar yr un ffurf sydd wedi gweithio yn dda mewn blynyddoedd cynt.

 

Bydd hyn yn cael ei hyrwyddo drwy’r cyfryngau cymdeithasol a datganiadau i’r wasg.  Cafodd dyddiadau’r cyfnod ymgynghori eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor yn fuan ar ôl cadarnhau dyddiad cyfarfod mis Rhagfyr y Cabinet.   

 

Mae’r ymgynghoriad ffurfiol yn dilyn cam cyn-cyllideb lle bydd swyddogion yn mynychu pedwar o leoliadau cyhoeddus ac yn rhannu arolygon i bennu barn ar sut mae’r Cabinet yn defnyddio ei gyllideb.

 

Mae dyddiad wedi’i bennu ar gyfer digwyddiad ymgysylltu cyhoeddus ar y gyllideb, sef 22 Ionawr, yng Nghanolfan Casnewydd. (Rydym wrthi’n pennu ymyrraeth yr Aelod Cabinet ac Uwch Swyddogion).

 

Yn ogystal, bydd y cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor yn amodol ar ymgynghoriad cyhoeddus gan ddefnyddio Wi-Fi bysus, wnaeth sicrhau bron 4,000 o ymatebion y llynedd.

 

Bydd swyddogion yn gweithio gyda’r Comisiwn Tegwch i hwyluso’r ymgysylltiad ar y gyllideb gyda’r Fforwm 50+, a grwpiau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. 

 

Mae swyddogion yn gweithio gyda chysylltiadau mewn sefydliadau partner i rannu manylion am yr ymgynghoriad ymysg grwpiau anodd i’w cyrraedd e.e. drwy rwydweithiau GAVO. 

 

Rydym yn ymgynghori gydag ysgolion ar Fforymau Ysgol, lle maent yn trefnu cyfarfod ar ei gyfer ym mis Ionawr, ynghyd ag adborth gan y grwpiau Penaethiaid uwchradd a chynradd.

 

Yn fewnol, bydd y gyllideb yn cael ei hadolygu gan bob Pwyllgor Craffu a chydag undebau staff/athrawon drwy’r Fforwm Partneriaeth Cyflogeion.

 

Bydd Uwch Swyddogion ar gael i fynychu cyfarfodydd Ward pan fyddant yn cael eu trefnu i gymryd rhan yn y cyfnod Ymgynghori a  ...  view the full Cofnodion text for item 1.