Cofnodion

2020/01: Arbedion Uwch Aelodau, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Llun, 13eg Ionawr, 2020

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cwestiwn i'r Arweinydd - Cadeirydd y Cabinet: 2020/01 - Arbedion Uwch Aelodau

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd Mogford:

 

All yr Arweinydd egluro swyddogaeth a dyletswyddau’r Dirprwy Arweinydd a sut fod hyn yn cyfiawnhau cyflog uwch o £34,600?

 

Ar yr adeg yma o godiadau Treth Gyngor sy’n uwch na chwyddiant a niferoedd llai, onid yw’r Arweinydd yn credu ei bod yn bryd lleihau nifer yr uwch swyddi, yn enwedig nifer Aelodau’r Cabinet?

 

Rhaid i ni chwilio am arbedion nid yn unig gan swyddogion ond hefyd gan y Weinyddiaeth, onid ydych yn cytuno?

 

Atebodd yr Arweinydd:

 

Mae swyddogaeth y Dirprwy Arweinydd wedi ei osod ger bron yn yn disgrifiadau o swyddogaethau aelodau a fabwysiadwyd gan y  Cyngor fel rhan o’r Cyfansoddiad yn 2017 - yn ei hanfod i ddirprwyo ar ran yr Arweinydd yn ei absenoldeb a’i gefnogi yn ei swydd. Mae’r cyflog uwch ar gyfer Dirprwy Arweinydd wedi ei osod gan yr IRP, wedi ei seilio ar lefel y cyfrifoldeb dan sylw, maint y Cyngor a’r enillion cyfartalog.  Nid oes unrhyw ddisgresiwn gan y Cyngor i dalu yn llai na’r cyflog o £34,600 a ragnodwyd.  Mae hyn £4,500 yn fwy na chyflogaeth Aelodau Cabinet eraill o £30,100 ac yn adlewyrchu’r cyfrifoldebau ychwanegol.

 

Felly mae’r gofyn i gael Dirprwy Arweinydd a swyddogaethau a chyfrifoldebau’r swydd wedi eu hen sefydlu. Bu gan Glymblaid y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd Ddirprwy Arweinydd pan oedden nhw mewn grym yn 2008-12. Yng Nghasnewydd, mae cyfrifoldeb portffolio penodol wedi ei ddirprwyo i’r Dirprwy Arweinydd hefyd, yn ogystal a dirprwyo ar ran yr Arweinydd.

 

Mae Deddf Llywodraeth Leol 2000 a’r cyfansoddiad yn caniatáu Cabinet o hyd at 10 aelod gweithredol, yn cynnwys yr Arweinydd ac Aelodau Cabinet. Cabinet o 9 aelod yn unig sydd gennym - yr Arweinydd ac 8 Aelod Cabinet (gan gynnwys y Dirprwy Arweinydd).  Gan ystyried cynllun dirprwyo’r Cyngor, gyda phenderfyniadau ac atebolrwydd unigol - yn wahanol i awdurdodau lleol eraill lle gwneir penderfyniadau gweithredol gan y Cabinet ar y cyd yn unig - nid yw’n bosib cynnig llywodraethiant democrataidd effeithiol gyda Chabinet llai ei faint.