Rhif | eitem |
---|---|
Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Gymunedau ac Adnoddau: 2020/02 - Toriadau i Gyllidebau Gwasanaethau a Chlybiau Ieuenctid Casnewydd Cofnodion: Gofynnodd y Cynghorydd Cleverly:
Pryd wnaeth y Cabinet benderfynu a chytuno i ddiddymu’r gwasanaeth ieuenctid a symud yr holl weithwyr ieuenctid i Gymunedau Cryf fel gweithwyr hybiau cymunedol?
Y llynedd, rhoddwyd £350,000 ychwanegol i bob gwasanaeth ieuenctid yng Nghymru. Y rheswm dros hyn oedd i roi mwy o gymorth i bobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl nad ydynt yn glinigol, pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth a’r rheiny sy’n ddigartref.
Ledled de Cymru, mae gwasanaethau ieuenctid wedi recriwtio timau newydd i greu’r project newydd hwn; mae un yng Nghaerffili gyda thîm o 5.
Pam nad oes unrhyw beth fel hyn yng Nghasnewydd?
Yn anffodus, fel gyda llawer o arian y bwriedir ei neilltuo ar gyfer gwaith ieuenctid, nid yw’n cael ei glustnodi. Mae llawer o’n gwasanaethau a chlybiau ieuenctid bellach wedi cau yng Nghasnewydd oherwydd toriadau cyllidol ac mae ein pobl ifanc a’n cymunedau’n wynebu canlyniadau difrifol.
Nid clybiau ieuenctid a gwaith ieuenctid yw’r unig ateb, ond maen nhw’n cyfrannu’n fawr fel lleoedd y gall pobl ifanc deimlo’n ddiogel a lle gallant ddod o hyd i rywun a fydd yn gwrando ar eu pryderon a’u helpu i fynd i’r afael â nhw.
Fel gweithwyr ieuenctid, rydym yn delio gydag addysg gymdeithasol gyda phobl ifanc, gan eu helpu wrth iddynt ddod yn oedolion.
Dywedodd y Cynghorydd Mayer:
Nid yw’r Gwasanaeth Ieuenctid wedi’i ddileu; mae’n cael ei ddarparu ym mhob rhan o’r ddinas yn rhan o’r model Hyb Cymdogaethau. Mae pob swydd yn y gwasanaeth ieuenctid yn parhau i gyflawni Gwaith Ieuenctid ym mhob rhan o’r ddinas.
Cafodd Casnewydd £310,000 ychwanegol yn 19/20 ar gyfer iechyd meddwl a llesiant yn ogystal â digartrefedd ieuenctid. Mae gwaith yn gysylltiedig â phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth yn parhau i gael ei wneud gan ddefnyddio ffynonellau arian cyngor ac allanol.
Mae 9 swydd newydd wedi’u creu yng Nghasnewydd i gefnogi iechyd meddwl/llesiant, digartrefedd a gwaith ieuenctid, yn unol â’r grant a ddyfarnwyd.
Hefyd, mae’r awdurdod wedi talu am wasanaethau Seicolegydd Clinigol Cymunedol, Seicolegydd Addysg ac yn ariannu’n rhannol swydd Swyddog Datblygu Tai Pobl.
Mae’r holl arian y bwriedir ei roi i’r gwasanaethau ieuenctid wedi’i glustnodi ac yn cael ei wario yn y maes hwnnw.
Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid yn cynnig ystod eang o raglenni ledled yr hybiau i bobl ifanc yn amrywio o gymorth addysgol, hyfforddiant a chyflogaeth, i wasanaethau sy’n ymwneud â hamdden ac agweddau cymdeithasol. Hefyd cynigir gwasanaeth cymorth cofleidiol gyda gofal bugeiliol i bobl ifanc, sy’n ceisio mynd i’r afael â’u hanghenion mewn modd cyfannol. |