Rhif | eitem |
---|---|
Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Datblygu Cynaliadwy: 2020/03 - Tlodi Tanwydd a Buddsoddi mewn Eiffeithlonrywdd Ynni Cofnodion: Gofynnodd y Cynghorydd C. Evans:
Mae’r wythnos hon yn ‘Wythnos Arbed Ynni Fawr’, sy’n ymgyrch genedlaethol i helpu pobl i dorri eu biliau tanwydd.
Mae llawer o gynghorau’n partnera gyda’r Gymdeithas Ynni Genedlaethol, elusen sy’n gweithio i ddileu tlodi tanwydd ac yn ymgyrchu dros fuddsoddi mewn effeithlonrwydd ynni i helpu pobl anghenus neu agored i niwed i gadw’n gynnes mewn ffordd fforddiadwy.
Drwy weithio gyda’r Gymdeithas Ynni Genedlaethol, mae’r cynghorau hyn yn rhoi hyfforddiant ynni am ddim i’w preswylwyr, am ychydig iawn o gost i’r cyngor, neu ddim cost o gwbl.
Pam nad yw’ch gweinyddiaeth chi yn estyn allan ac yn darparu cyngor a chymorth tebyg i bobl Casnewydd? Wnewch chi addo y byddwch yn cysylltu â’r Gymdeithas Ynni Genedlaethol ac ymchwilio i’r psoibilrwydd o weithio gyda nhw yn y dyfodol?
Ymatebodd y Cynghorydd Davies:
Mae fy ngweinyddiaeth yn cefnogi nod Gweithredu Cenedlaethol ar Ynni o leihau’r nifer o bobl sydd mewn tlodi tanwydd.
Mae Gweithredu Cenedlaethol ar Ynni (Nid Cymdeithas) yn sefydliad bach sy’n gweithio ledled y DU, ac mae dulliau o weithio mewn partneriaeth gyda’r gangen yng Nghymru - NEA Cymru - ac awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael eu datblygu.
Mae swyddogion hefyd yn gweithio’n agos gyda rhaglen Arbed Am Byth Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth i drigolion Casnewydd.
Yn rhan o’r gwaith hwn, bydd y Cyngor yn parhau i adolygu ystod o gyfleoedd lleihau carbon er mwyn cefnogi preswylwyr.
|