Rhif | eitem |
---|---|
Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Ddatblygu Cynaliadwy: 2020/05 - Cynllun Rheoli Carbon Cofnodion: Gofynnodd y Cynghorydd White:
Yn ogystal â'r cynigion sydd wedi'u cynnwys yn y Cynllun Rheoli Carbon, a yw'r Cyngor wedi ystyried dyblu swm y coed yng Nghasnewydd? Mae'r fenter hon wedi cael ei mabwysiadu gan nifer o gynghorau, yn arbennig yn Lloegr, a byddai'n glod i Gasnewydd pe byddai’r Cyngor yr un cyntaf yng Nghymru i wneud hyn. Dyma ddolen i rai o'ch sylwadau ar y cynllun er gwybodaeth.
https://takeclimateaction.uk/resources/how-double-tree-cover-your-area-briefing-councillors
Ymatebodd y Cynghorydd Davies:
Mae polisïau coed presennol y Cyngor (a fabwysiadwyd yn 2015) yn cadarnhau parhad polisi Ysgyfaint Gwyrdd y Cyngor, gan ganolbwyntio ar:
- Blannu rhywogaethau coed priodol newydd ar fannau agored cyhoeddus, coridorau strategol a safleoedd porth ar draws y ddinas - Lliniaru datblygu trwy amnewid hen goed am rai tebyg ac iawndal plannu ychwanegol lle bo'n ymarferol - Rheoli stoc coed y ddinas yn uniongyrchol er mwyn cadw cydbwysedd, a - Chynnwys y gymuned i gefnogi grwpiau cymunedol gyda rhaglenni plannu
Mae hyn yn cadarnhau ein hymrwymiad i gynyddu swm y coed yn y ddinas. Mae swyddogion hefyd wrthi'n mapio stoc coed Casnewydd drwy'r project 'I-tree' digidol i gynorthwyo ymhellach â'r gwaith o reoli ein hadnodd coed yn y dyfodol.
|