Cofnodion

2020/05: Cynllun Rheoli Carbon, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Llun, 24ain Chwefror, 2020

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Ddatblygu Cynaliadwy: 2020/05 - Cynllun Rheoli Carbon

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd White:

 

Yn ogystal â'r cynigion sydd wedi'u cynnwys yn y Cynllun Rheoli Carbon, a yw'r Cyngor wedi ystyried dyblu swm y coed yng Nghasnewydd?

Mae'r fenter hon wedi cael ei mabwysiadu gan nifer o gynghorau, yn arbennig yn Lloegr, a byddai'n glod i Gasnewydd pe byddai’r Cyngor yr un cyntaf yng Nghymru i wneud hyn.

Dyma ddolen i rai o'ch sylwadau ar y cynllun er gwybodaeth.

 

https://takeclimateaction.uk/resources/how-double-tree-cover-your-area-briefing-councillors

 

Ymatebodd y Cynghorydd Davies:

 

Mae polisïau coed presennol y Cyngor (a fabwysiadwyd yn 2015) yn cadarnhau parhad polisi Ysgyfaint Gwyrdd y Cyngor, gan ganolbwyntio ar:

 

-         Blannu rhywogaethau coed priodol newydd ar fannau agored cyhoeddus, coridorau strategol a safleoedd porth ar draws y ddinas

-         Lliniaru datblygu trwy amnewid hen goed am rai tebyg ac iawndal plannu ychwanegol lle bo'n ymarferol

-         Rheoli stoc coed y ddinas yn uniongyrchol er mwyn cadw cydbwysedd, a

-         Chynnwys y gymuned i gefnogi grwpiau cymunedol gyda rhaglenni plannu

 

Mae hyn yn cadarnhau ein hymrwymiad i gynyddu swm y coed yn y ddinas. Mae swyddogion hefyd wrthi'n mapio stoc coed Casnewydd drwy'r project 'I-tree' digidol i gynorthwyo ymhellach â'r gwaith o reoli ein hadnodd coed yn y dyfodol.