Cofnodion

2020/07: Mannau Gwefru Ceir Trydanol, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Llun, 24ain Chwefror, 2020

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Ddatblygu Cynaliadwy: 2020/07 - Mannau Gwefru Ceir Trydanol

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd C Evans:

 

Annwyl yr Aelod Cabinet – mae'n dda bod ein Cyngor wedi derbyn arian i ddarparu rhai mannau gwefru ceir trydanol ledled ein dinas. Allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y cynnydd? Pryd a ble fydd y mannau gwefru hyn ar gael? Sut byddwch chi'n penderfynu ymhle y cânt eu lleoli?

 

Nid yw'r rhan fwyaf o bobl yng Nghasnewydd yn byw mewn cartrefi gyda thramwyfeydd a/neu modrudai preifat, mae eu cartrefi ar strydoedd, ffyrdd neu derasau heb ofod preifat y tu allan.

 

Gyda hyn mewn golwg, fyddwch chi’n dilyn cynghorau eraill ac yn cyflwyno cynllun lle gall trigolion ofyn am osod mannau gwefru ar gyfer ceir trydan ar eu stryd, eu ffyrdd ac ati? Sy'n golygu y bydd mynediad at fannau gwefru ar gael i lawer o bobl, nid dim ond ychydig ohonynt.

 

Ymatebodd y Cynghorydd Davies:

 

Bydd yr arian grant a dderbyniwyd hyd yn hyn yn darparu seilwaith gwefru ym meysydd parcio talu ac arddangos y Cyngor, gan alluogi preswylwyr sy'n byw gerllaw i wefru eu cerbydau dros nos.  Dewiswyd y meysydd parcio yn seiliedig ar feini prawf y grant ac mae mannau gwefru’n cael eu gosod ar hyn o bryd. Byddant ar gael i'w defnyddio ar 1 Ebrill 2020.

 

Sylweddolaf y bydd angen mannau gwefru pellach, ond mae amrywiaeth o heriau i'w goresgyn wrth ystyried gosod mannau gwefru ar briffyrdd cyhoeddus.  Rwyf wedi gofyn i swyddogion barhau â'u gwaith ar ymchwilio i gyfleoedd ar gyfer mannau gwefru ar y stryd gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill.