Cofnodion

2020/08: Amserlen ar gyfer Gwaredu Mannau Parcio i Bobl Anabl, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Llun, 2ail Mawrth, 2020

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau'r Ddinas a Gwasanaethau Cymdeithasol: 2020/08 - Amserlen ar gyfer Gwaredu Mannau Parcio i Bobl Anabl

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd M. Evans:

 

Daeth i'm sylw nad oes gennym amserlen ar gyfer cael gwared ar fannau parcio i bobl anabl.

 

Mae un person wedi dweud ei fod wedi bod yn ceisio cael gwared ag un am ddwy flynedd ar ôl i'r preswylydd sydd ei angen, farw.

 

A all yr Aelod Cabinet egluro pam nad oes gennym amserlen a beth mae’n bwriadu ei wneud ynghylch y sefyllfa annerbyniol bresennol?

 

Ymatebodd y Cynghorydd Jeavons a’r Cynghorydd Cockeram:

 

Er y bydd preswylydd wedi gwneud cais am Fan Parcio i Bobl Anabl (DPPP), mae'r gorchymyn traffig yn caniatáu i unrhyw un sy'n dal y Bathodyn Glas ei ddefnyddio.

 

Felly ni chaiff unrhyw benderfyniad i waredu’r gorchymyn traffig a gwaredu’r Man Parcio ond ei wneud ar ôl cael cadarnhad nad oes ei angen ac na chafwyd ceisiadau pellach ar gyfer y mannau newydd yn y lleoliad. Caiff yr asesiad hwn a’r Man Parcio newydd ei wneud gan y Gwasanaethau Oedolion.

 

Lle yr awdurdodir dirymu, caiff ei gynnwys yn y broses statudol ochr yn ochr â'r Mannau Parcio newydd a gynigir.  Mae’r broses asesu a chyfreithiol sydd ei angen i greu mannau newydd neu waredu rhai’n cael ei chynnal bob blwyddyn.

 

Ni allaf wneud sylw am yr achos penodol hwn, gan nad wyf yn ymwybodol o fanylion y preswylydd, ond os ydych chi, y Cynghorydd Evans, am roi enw a chyfeiriad imi, byddaf yn gofyn i swyddogion ymchwilio i'r mater.