Cofnodion

2020/09: Mynd i'r afael รข phryderon Cymdeithas Prifathrawon Cynradd Casnewydd, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Gwener, 6ed Mawrth, 2020

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cwestiwn i'r Arweinydd: 2020/09 Mynd i'r afael â phryderon Cymdeithas Prifathrawon Cynradd Casnewydd

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd M. Evans:

 

Dengys y streic ddiweddar yn Ysgolion Uwchradd Caerllion a Llanwern fod yr athrawon a'r staff wedi colli hyder yn y cyngor i ddelio â'u pryderon dealladwy.

 

Ni wnaeth eich Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Gail Giles gyfarfod â hwy hyd yn oed pan ddaethant i'r ganolfan ddinesig. Cred y Gr?p Ceidwadol, yn dilyn hyn, fod ei swydd bellach yn anghynaliadwy a bod angen rhywun i fynd i'r afael â'r sefyllfa.

 

Mae Cymdeithas Penaethiaid Ysgolion Cynradd Casnewydd wedi ysgrifennu at y Cabinet yn dweud; "Yr ydym yn awr yn wynebu'r gwir bosibiliad o fethu â chyflawni hawl addysgol lawn ein disgyblion, rydym yn debygol o fod yn gweithredu ein hysgolion heb ddiogelwch digonol a byddwn yn dysgu mewn adeiladau sy'n disgyn yn ddarnau o'n hamgylch mewn ystafelloedd dosbarth sydd ddirfawr angen eu haddurno".

 

Pryd oedd y tro diwethaf i'r Aelod Cabinet gwrdd â hwy neu, yn wir, y rhai a oedd yn streicio?

 

Dim ond dwy o'n naw ysgol uwchradd sy'n cael eu graddio'n wyrdd, tra bod St. Julian's ac Ysgol Uwchradd Casnewydd wedi bod yn cymryd camau arbennig ers mis Gorffennaf a mis Tachwedd 2017, a ydych yn cytuno bod hyn yn gwbl annerbyniol?

 

Mae'r Cynghorydd Giles wedi bod yn ei swydd ers mis Mai 2016 a rhaid iddi gymryd cyfrifoldeb, felly a yw'n dal i gael eich cefnogaeth lawn?

 

Atebodd yr Arweinydd:

 

Mae'n hynod siomedig bod gr?p y gwrthbleidiau'n defnyddio ysgolion i geisio gwneud cyfalaf gwleidyddol. Drwy'r blynyddoedd o galedi, mae'r cyngor wedi ceisio diogelu ysgolion cynradd ac uwchradd gymaint â phosibl ac maent wedi arbed rhai o'r gostyngiadau enfawr mewn cyllid a welwyd mewn ardaloedd eraill.

 

Yng nghyllideb y flwyddyn nesaf, a gadarnhawyd gan y cyngor llawn ar 27 Chwefror 2020, cytunwyd ar fuddsoddiad o £10.4 miliwn. Mae hyn yn cynnwys y £4,600,000 ychwanegol llawn o setliad Llywodraeth Cymru - er nad oedd hynny wedi'i neilltuo ar gyfer ysgolion – ynghyd â £1,400,000 ychwanegol.

 

Mae'n rhaid i gynghorau ddosbarthu symiau o'u cyllideb ysgol unigol (ISB) ymhlith eu hysgolion a gynhelir yn ôl fformiwla sy'n cyd-fynd â rheoliadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru ac sy'n galluogi cyfrifo cyfran o'r gyllideb ar gyfer pob ysgol a gynhelir. Mae'r Cyngor yn dirprwyo cyllid ar sail gyfartal gan ddefnyddio'r fformiwla ariannu ysgolion y cytunwyd arni gan y fforwm cyllideb ysgolion – sef gr?p ymgynghorol sy'n cynnwys penaethiaid, llywodraethwyr a rheolwyr busnes ysgolion.

 

Gellir rhannu'r fformiwla ariannu yn bedair prif elfen:

 

·         Anghenion addysgol arbennig

·         Safle-benodol

·         Ysgol-benodol

·         Uned Disgyblion a Bwysolir yn ôl Oedran (AWPU)

 

Mae'r tri chyntaf yn darparu cyllid i ysgol yn seiliedig ar ystod o elfennau amrywiol sy'n unigryw i'r ysgol honno, fel nifer y disgyblion, cyflwr yr adeilad, arwynebedd y llawr, y math o ynni a ddefnyddir, nifer yr athrawon ar y raddfa gyflog uwch (UPS), disgyblion ag anghenion addysgol arbennig, canolfannau adnoddau dysgu ac ati.

 

Prif elfen cyllid ysgolion yw’r Uned Disgyblion a Bwysolir yn ôl Oedran (AWPU). Swm penodedig ar gyfer pob disgybl, fesul gr?p blwyddyn, fesul  ...  view the full Cofnodion text for item 1.