Rhif | eitem |
---|---|
Cwestiwn i'r Arweinydd/ Aelod Cabinet Dros Wasanaethau'r Ddinas : 2020/19 - Llifogydd Pentref Llanwern Cofnodion: Gofynnodd y Cynghorydd Kellaway:
Beth yw cynllun y weinyddiaeth i fynd i'r afael â'r llifogydd sydd wedi digwydd eto ym mhentref Llanwern gan achosi niwed i eiddo a pheryglu pobl? Pam nad oes buddsoddiad wedi digwydd yn y rhwydwaith draenio o amgylch Llanwern a allai fod wedi atal neu o leiaf leihau effaith y llifogydd?
Ymatebodd y Cynghorydd Jeavons:
Fel y mae swyddogion eisoes wedi cynghori, cynhelir cyfarfodydd gyda'r sefydliadau priodol i ymchwilio i'r llifogydd lleol diweddar ac i sefydlu ymyriadau i liniaru unrhyw ddigwyddiadau pellach o'r fath. |