Agenda and minutes

2021/1: Prydau Ysgol Am Ddim, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Llun, 15fed Chwefror, 2021

Eitemau
Rhif eitem

1.

Question to the Cabinet Member for Education & Skills : 2021/1- Prydau Ysgol Am Ddim

Cofnodion:

Cynghorydd J. Watkins:

 

Mae pryderon wedi’u codi mewn perthynas â chynnwys maethol a digonolrwydd Prydau Ysgol Am Ddim sy’n cael eu cyflenwi ar hyn o bryd yn ystod y Pandemig presennol lle mae plant wedi’u gwahardd rhag mynychu’r ysgol yn gorfforol.

 

Allwch chi plîs esbonio mewn manylder beth sy’n cael ei ddarparu mewn perthynas â’r uchod i blant sy’n derbyn PYADd i blant sy’n mynychu Ysgolion Casnewydd. 

 

 

Y Cynghorydd Gail Giles:

 

Yn dilyn cadarnhad o gyllid gan Llywodraeth Cymru yn ystod y Gwanwyn 2020, penderfynodd Gyngor Dinas Casnewydd roi i ddisgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim dalebau archfarchnad yn lle eu prydau ysgol am ddim a ddarperir fel arfer yn ystod y diwrnod ysgol yn ystod y cyfnod cloi a chyfnodau gwyliau ysgol. 

 

Ers Ebrill 2020 mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cyflwyno talebau bob pythefnos dros e-bost i rieni a gofalwyr.  Mae gan y talebau hyn werth ariannol o £39.00.  Mae’r £39.00 yn seiliedig ar werth dyddiol o £3.90 sy’n cydymffurfio’n llawn â’r gyfradd a argymhellir a osodwyd gan Llywodraeth Cymru am bryd ysgol am ddim.  Mae rhieni a gofalwyr yn gallu defnyddio’r daleb mewn amryw archfarchnadoedd.  Gellir defnyddio’r rhain wrth y til neu drwy’r cyfleuster siopa ar-lein sy’n cefnogi clicio a chasglu neu ddanfoniadau i’r cartref.  

 

Ni ellir defnyddio’r talebau archfarchnad i brynu alcohol, tybaco neu danwydd. 

 

Yn ystod tymor yr hydref, mae achosion lle mae disgyblion wedi gorfod hunanynysu.  Mae Cyngor Dinas Casnewydd hefyd wedi darparu talebau archfarchnad yn yr amgylchiadau hyn fel nad oes unrhyw deulu yn colli ei hawliad Prydau Ysgol Am Ddim.