Rhif | eitem |
---|---|
Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden: 2021/2 Cyfleusterau Hamdden Gofynnodd y Cynghorydd J. Watkins: O ystyried y cyfleuster Chwaraeon hardd ar safle Campws Caerllion ynghyd â'r lle i ddatblygu'r cyfleuster ymhellach drwy ychwanegu pwll nofio ac ati a hefyd y caeau chwaraeon sydd ar gael ar y safle, pam na fanteisiodd yr CDC ar y cyfle i drafod prynu'r cyfleuster gyda'r bwriad o'i ddatblygu am gost is na'r hyn a fydd yn cael ei ysgwyddo yn y cynnig presennol? Oni fyddai hyn wedi bod yn well defnydd o arian cyhoeddus?
Ymatebodd y Cynghorydd Harvey: Mae cadw'r Neuadd Chwaraeon fel rhan o unrhyw ailddatblygiad ehangach ar safle Caerllion wedi’i annog erioed, ond roedd y cyfleuster mewn dwylo preifat. Roedd y perchnogion blaenorol, Prifysgol De Cymru, yn glir na fyddent yn cadw'r rhan hon o'r safle ac na fyddent yn ei gweithredu eu hunain. Er bod swyddogion y Cyngor wedi cymryd rhan mewn trafodaethau cychwynnol gyda PDC ynghylch dyfodol y cyfleuster chwaraeon, cadarnhaodd adroddiad y Brifysgol ei hun fod y ganolfan yn gweithredu ar sail colled ac y byddai angen cymhorthdal blynyddol. Fel y nodwyd gennych yn gwbl briodol, arian cyhoeddus yw hwn – hyd yn oed gyda buddsoddiad pellach, nid oedd disgwyl i incwm dalu'r costau gweithredu ac felly ni ellid cyflwyno achos busnes ariannol cadarn dros gaffael y safle. Bydd y cynigion ymgynghori ar gyfer canol y ddinas yn darparu cyfleusterau hamdden cynaliadwy o'r radd flaenaf, mewn lleoliad sy'n hygyrch i bob cymuned yng Nghasnewydd, tra hefyd yn galluogi buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru mewn cyfleusterau addysg bellach newydd sbon yng nghanol y ddinas.
|