Rhif | eitem |
---|---|
Cwestiynau i Arweinydd y Cyngor- 2021/3: Debenhams yn Friar's Walk Cofnodion: Gofynnodd y Cynghorydd Fouweather: A all yr Arweinydd ddweud wrthyf a yw hi neu unrhyw aelod o'r cabinet neu unrhyw swyddog wedi bod mewn trafodaethau gydag unrhyw siop gadwyn o bwys ar y stryd fawr gyda golwg ar gymryd drosodd siop Debenhams yn Friar’s Walk a fydd yn wag cyn bo hir.
Ymatebodd Arweinydd y Cyngor: Mae Friar's Walk mewn dwylo preifat ac er ein bod yn ceisio cefnogi pob un o'n busnesau yng Nghanol y Ddinas mewn partneriaeth â Casnewydd Nawr, nid ydym wedi cymryd rhan uniongyrchol mewn unrhyw drafodaethau ar osodiadau posibl yn y datblygiad hwn. Fodd bynnag, mae llwyddiant Canol y Ddinas yn y dyfodol yn llawer mwy nag un adeilad neu weithredwr unigol.
Rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth â'r holl randdeiliaid yng nghanol y ddinas, gan gynnwys Ardal Gwella Busnes Casnewydd Nawr, gan edrych ar gyfleoedd i wneud Canol y Ddinas yn lle bywiog a hyfyw i bobl fyw, ymweld ag ef a gweithio ynddo.
Rydym hefyd yn gweithio'n agos iawn gyda dinasoedd eraill yn Ne Cymru sydd mewn sefyllfa debyg i Gasnewydd. Rydw i, ochr yn ochr ag Arweinwyr Cynghorau Dinas Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe, wedi anfon llythyr ar y cyd yn ddiweddar at Lywodraeth Cymru yn gofyn am drafodaeth frys i alluogi’r gwaith o sicrhau cefnogaeth a buddsoddiad pellach i'n dinasoedd allweddol yng Nghymru.
|