Rhif | eitem |
---|---|
Question to the Leader of the Council: 2021/3 - Statws Porthladd Rhydd i Gasnewydd Cofnodion: Cynghorydd J Watkins:
Dyfarnwyd statws Porthladd Rhydd yn ddiweddar i nifer o ddinasoedd yn Lloegr gan roi manteision economaidd mawr iddynt wrth symud ymlaen.
Mae Casnewydd yn y ras i gael yr un statws ac mae corff o dystiolaeth i gefnogi cais ar ran y ddinas yma yng Nghymru.
Rhowch fanylion yr hyn y mae'r Awdurdod hwn yn ei wneud i gefnogi Casnewydd i ddod yn Borthladd Rhydd gyda'r holl fanteision a ddaw yn sgil hynny.
Arweinydd y Cyngor:
Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi penodi AECOM i helpu i ddatblygu'r achos busnes dros sicrhau statws Porthladd Rhydd yi Borthladd Casnewydd. Mae AECOM yn gwmni ymgynghori blaenllaw gydag arbenigedd sylweddol mewn porthladdoedd, gweithrediadau morol a datblygu economaidd, ac roeddent yn allweddol i gyflawni cais llwyddiannus Teeside.
Nid yw’r manylion am y broses ymgeisio yng Nghymru wedi eu cyhoeddi eto, ond bydd y comisiwn hwn yn sicrhau y bydd Casnewydd yn barod wneud cais gynted ag y bydd y gystadleuaeth yn agor.
|