Rhif | eitem |
---|---|
Question to the Leader : 2021/4 -Delio â Digartrefedd, ar ôl y Pandemig Cofnodion: Cynghorydd J Watkins:
Pa gynlluniau sydd gan y Cyngor hwn ar waith i gefnogi pobl sy'n dioddef digartrefedd pan fydd y Pandemig hwn ar ben? Sut y cânt eu helpu i gael llety a gyda materion eraill y gallent fod yn delio â nhw? A oes unrhyw waith yn digwydd mewn partneriaeth i gynorthwyo gyda'r problemau sy'n gysylltiedig â Digartrefedd ac os felly, pwy yw'r Partneriaid hynny?
Arweinydd y Cyngor:
Yn ystod y pandemig, atgyfnerthwyd gwaith partneriaeth drwy weithio amlasiantaethol gyda'r grwpiau canlynol : - Yr Heddlu - Y Gwasanaeth Prawf - BIPAB (Gwasanaethau Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau) - CDC (Grant Tai/ Cymorth Tai/ Iechyd yr Amgylchedd/ cymunedau cysylltiedig) - Iechyd Cyhoeddus Cymru - Y Trydydd Sector (Pobl) - Elusennau a grwpiau dyngarol (Wallich, Eden Gate) Datblygwyd gwasanaethau allgymorth digartrefedd i sicrhau bod gan y rhai sydd â dyletswydd statudol drostyn nhw o ran digartrefedd a'r rhai sy'n cysgu ar y stryd fynediad cyflym at lety, cymorth iechyd meddwl a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau.
Mae cyllid refeniw cam 2 Llywodraeth Cymru wedi'i sicrhau ac mae'n hwyluso: - Datblygu tîm cymorth yn ôl yr angen sy'n darparu ymyriad adeg gritigol i bobl sy'n cysgu ar y stryd. - Allgymorth pendant o fewn Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent i ddarparu mynediad at wasanaethau camddefnyddio sylweddau a rhaglenni triniaeth. - Gwasanaeth ymyrraeth seicolegol drwy BIPAB i ddarparu Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (ThGY) a Therapi Ymddygiad Dialectig (ThYD) i gynyddu strategaethau ymdopi ac adeiladu gwydnwch ymhlith y rhai sy'n ddigartref. - Adolygiad o wasanaethau, bylchau a darpariaeth gwasanaethau i gynnwys penwythnosau a nosweithiau. Mae CDC wedi gweithio'n agos gyda Pobl i ddarparu cymorth T? yn Gyntaf i bobl sy'n cysgu ar y stryd.
Rydym hefyd wedi cydgysylltu gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a’r adran Budd-dal Tai i atal achosion llys a dadfeddiannu posibl oherwydd ôl-ddyledion rhent.
Datblygwyd protocolau ailgartrefu cyflym gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig partner i gynyddu cynigion eiddo tai cymdeithasol i aelwydydd digartref.
Mae cyllid cyfalaf cam 2 Llywodraeth Cymru wedi galluogi cynnig 5 prosiect tai a fydd yn darparu 40 o unedau llety un person. Dylai'r cynlluniau hyn ddechrau dod ar waith yn ystod yr wythnosau nesaf.
Cynigiwyd prosiectau tai â chymorth ar gyfer pobl ifanc a rhai ag anghenion cymhleth ac mae strategaethau Sector Rhent Preifat yn cael eu datblygu i gynyddu symud ymlaen.
Mae'r polisi dyrannu yn cael ei adolygu i sicrhau bod y rhai sy'n cael eu lletya yn ystod y pandemig yn cael blaenoriaeth ar gyfer tai cymdeithasol.
Mae llawer iawn o waith partneriaeth yn digwydd a bydd yn parhau felly. Mae llety ychwanegol yn cael ei geisio a'i sicrhau'n barhaus i sicrhau bod llety a chymorth ar gael i'r gr?p hwn o unigolion.
|