Rhif | eitem |
---|---|
Question to the Cabinet Member for City Services (Deputy Leader): 2021/5 - Gorchmynion Terfyn Cyflymder 20 MYA Dros Dro Cofnodion: Cynghorydd M. Kellaway:
Rwy'n cefnogi 20mya mewn egwyddor, ond a ydych yn cytuno y dylai ardal/ffyrdd gwledig fod wedi bod yn rhan o leiaf o'r treial hwn o ystyried bod damweiniau ffyrdd yn fwy tebygol o fod yn angheuol mewn ardaloedd gwledig. Os nad ydych, pam?
DirprwyArweinydd Roger Jeavons:
Bwriadcyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Trafnidiaeth Gynaliadwy Leol mewn Ymateb i Covid 19 oedd mynd i'r afael â dau bryder yn ymwneud â thrafnidiaeth sydd wedi dod i'r amlwg yn sgil y pandemig. Gallu cerddwyr a beicwyr i ymbellhau'n gymdeithasol o fewn amgylchedd y briffordd a chynnydd posibl yn y defnydd o geir.
Mae'rlle sydd ar gael ar droedffyrdd a llwybrau a rennir mewn ardaloedd trefol yn aml yn annigonol i ganiatáu pellteroedd pasio sy'n cydymffurfio. Mae pwysau ychwanegol hefyd ar y lle sydd ar gael yn sgil ciwiau y tu allan i siopau ac mewn safleoedd bws ac ati.
O ganlyniad, mae cerddwyr a beicwyr yn aml yn cael eu gorfodi i gamu neu seiclo i'r lôn gerbydau er mwyn osgoi mynd heibio'n agos. Mae hyn yn arbennig o bryderus gyda defnyddwyr sydd ag anawsterau symudedd a phlant ifanc.
Ynogystal, gallem weld hyd yn oed mwy o ganrannau o deithiau’n digwydd mewn ceir yn y dyfodol oni bai ein bod yn gwneud strydoedd yn amgylchedd mwy croesawgar ar gyfer beicio a cherdded fel dulliau teithio amgen
Dyrannwydyr arian i nifer o ardaloedd y mae nifer fawr o ymwelwyr yn eu defnyddio, er mwyn manteisio i'r eithaf ar fuddion ymbellhau cymdeithasol, gostwng dibyniaeth ar geir a gwella ansawdd aer.
Mae llawer o ardaloedd o'r ddinas nad ydynt wedi'u nodi’n rhan o'r fenter hon, gan gynnwys aneddiadau gwledig ac ardaloedd trefol
O ran ffyrdd gwledig, nid oes gan lawer ohonynt droedffyrdd a phan fo troedffyrdd ar gael, nid yw ymbellhau cymdeithasol yn broblem gan nad oes llawer o bobl yn eu defnyddio.
Fel y gwyddoch, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig y dylid cyflwyno terfyn cyflymder cenedlaethol o 20mya fel mater o drefn ar gyfer ardaloedd preswyl yng Nghymru cyn gynted â phosibl, gyda dyddiad targed o Ebrill 2023 i’r newid yn y gyfraith ddod i rym. Bydd hyn yn berthnasol i ardaloedd preswyl trefol a gwledig ledled y ddinas |