Cofnodion

2021/6: Dipio anghyfreithlon sy'n digwydd yn Llyswyry a Nash, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Llun, 26ain Ebrill, 2021

Eitemau
Rhif eitem

1.

Question to the Cabinet Member for City Services: 2021/6- Fly Tipping in Lliswerry and Nash

Cofnodion:

Cynghorydd A. Morris:

 

Beth yw'r cynlluniau ar hyn o bryd i fynd i'r afael â'r lefelau hyll a chynyddol o dipio anghyfreithlon sy'n digwydd yn Llyswyry a Nash a pha gamau sy'n cael eu cymryd i'w atal?

 

DirprwyArweinydd Roger Jeavons:

 

Mae sbwriel a thipio anghyfreithlon yn cael ei achosi gan unigolion anghyfrifol ac mae'r canlyniad terfynol yn cael effaith negyddol sylweddol ar ein cymunedau ac yn faich ar adnoddau'r Cyngor.

 

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r cyngor wedi buddsoddi mewn teledu cylch cyfyng cudd sydd wedi'i osod mewn nifer o fannau lle mae problemau tipio.  Mae hyn wedi arwain at gynnydd o 600% yn nifer y dirwyon a roddwyd. Gyda nifer o erlyniadau eraill yn yr arfaeth.

 

Er gwaethaf effaith Covid, ein hymateb cyfartalog i dipio anghyfreithlon yw 1.5 diwrnod, sy’n llai na’n targed o 2 ddiwrnod. Fel rhan o gyllideb y Cyngor ar gyfer 2021-22 cyhoeddwyd buddsoddiad pellach mewn timau ymateb i dipio anghyfreithlon, a fydd yn ein galluogi i wella'r perfformiad ymhellach.

 

Mae archwiliadau’r System Reoli ar gyfer Archwilio’r Amgylchedd Lleol o Lyswyry dros y 6 mis diwethaf yn dangos bod pob stryd wedi cyrraedd gradd A neu B+.