Cofnodion

2021/9: Ansawdd Aer a Chludiant i'r Ysgol, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Llun, 24ain Mai, 2021

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau'r Ddinas: Ansawdd Aer a Chludiant i'r Ysgol

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd J. Watkins:

 

O ystyried y pryderon difrifol ynghylch lefelau Ocsid Nitraidd ac Ansawdd Aer yng Nghaerllion, ynghyd â'r ffaith bod Ysgol Gynradd Charles Williams wedi’i lleoli ar y system unffordd yr effeithir arni, ac o ystyried hefyd y cynnydd sylweddol mewn traffig ar ddechrau a diwedd y diwrnod ysgol a achosir gan rieni a gofalwyr yn casglu plant, a fyddai'r aelod Cabinet yn ystyried y cynnig canlynol.

 

Gan weithio gyda'r Celtic Manor, rwy'n credu y gellid gwneud trefniadau i gludo plant yn ddiogel i'r ysgol ac yn ôl gan ddefnyddio cynllun Parcio a theithio estynedig.

 

Rwy'n ymwybodol bod trefniadau ar waith ar gyfer cludo rhai plant o'r tu allan i'r ardal yn ddyddiol eisoes a byddai hyn yn cael ei ymestyn yn fy nghynllun.

 

Fy nghynnig i yw hyn: mae llawer o le parcio ar gael wrth fynediad The Catsash i'r Celtic Manor, gyda'u cytundeb (byddai angen trafodaethau ar sail eu cefnogaeth i'r Gymuned, ac rwy'n si?r y byddent yn hapus â hynny). Gallai rhieni barcio yno, wrth ollwng plant y gellid eu codi gan fysus sy’n aros a'u cludo'n ddiogel i'r ysgol; a fyddai'n cynnwys pob un o'r tair ysgol yn yr ardal.

 

Byddai hyn yn gwella'r sefyllfa draffig yn sylweddol ar yr adegau a grybwyllwyd o’r blaen, sefyllfa pan fo traffig yn ciwio yn ôl ar Belmont Hill yn bresennol ac yn tagu’r system unffordd.

 

Mae traffig o'r maint a welir, ynghyd â’r symud cychwyn-aros, yn effeithio'n drwm ar Iechyd a Lles pawb ond yn enwedig y bobl ifanc sy'n agored i niwed sy'n mynychu Ysgol Gynradd Charles Williams.

 

Yn amlwg, byddai angen trafodaethau gyda chwmnïau bysus ac fel y soniwyd eisoes am gyda’r Celtic Manor, ond fy nadl i yw y byddai'r cynnig hwn pe bai'n cael ei weithredu yn lleihau'r risg o lygredd aer yn sylweddol ac felly'r risg i Iechyd ein plant.

 

Ymatebodd y Cynghorydd R Jeavons (Dirprwy Arweinydd):

 

Hoffwn dynnu'ch sylw at Strategaeth Teithio Cynaliadwy'r Cyngor (Rhan G), sy'n nodi bod gan ysgolion, y Cyngor a rhieni oll gyfrifoldebau o ran lleihau teithio anghynaladwy a'i lygryddion cysylltiedig.

 

Mae dadansoddiad yn ddiweddar wedi dangos, o'r teuluoedd sydd â phlant yn Ysgol Gynradd Charles Williams ac Ysgol Gyfun Caerllion, fod 90% a 70% yn y drefn honno o fewn pellteroedd cerdded cydnabyddedig eu hysgol.  O'r herwydd, fyddai fawr ddim o bwrpas, os o gwbl, mewn cael safle parcio a theithio yn Catsash Road yn dal traffig ysgol o lwybrau mawr i Gaerllion, ond byddai'n fwyaf tebygol o gyflwyno milltiroedd ysgol ychwanegol drwy Gaerllion ac o’i hamgylch, gan effeithio'n negyddol ymhellach ar broblemau ansawdd aer.

 

Yn ogystal, mae New Road a'i chyffordd â Ffordd Caerllion eisoes yn profi tagfeydd yn ystod oriau brig, a fyddai'n cael mwy o draffig yn effeithio arnynt, pe bai trefniadau Parcio a Theithio Catsash yn cael eu hystyried.