Cofnodion

2021/10: Agor yr Orsaf Wybodaeth, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Iau, 3ydd Mehefin, 2021

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Gymuned ac Adnoddau - 2021/10: Agor yr Orsaf Wybodaeth

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd Matthew Evans:

 

Mae'r Orsaf Wybodaeth wedi bod ar gau ers cryn amser bellach, a all yr Aelod Cabinet egluro'r rhesymau pam, a phryd y gallwn ddisgwyl iddo ailagor?

 

Ymatebodd y Cynghorydd David Mayer:

 

Cafodd mynediad cyffredinol y cyhoedd i'r Orsaf Wybodaeth ei dynnu oherwydd Cyfyngiadau Covid. Roedd hyn er mwyn cydymffurfio â rheoliadau ac er diogelwch y cyhoedd a'n staff. Fodd bynnag, mae'r holl wasanaethau'n parhau i fod ar gael, naill ai ar-lein neu dros y ffôn. Mae dros 50,000 o aelwydydd wedi cofrestru ar gyfer cyfrif cwsmeriaid a dyma'r ffordd y caiff trafodion a thaliadau eu prosesu erbyn hyn. 

 

Fel y gwyddoch, bydd adeiladau'r orsaf yn cael eu prydlesu i Tramtech ac felly bydd swyddogaethau gwasanaeth cwsmeriaid blaen t?'r Cyngor yn symud o'r Orsaf Wybodaeth i adeilad y Llyfrgell Ganolog a'r Amgueddfa. Wrth i hyn gael ei ail-osod, rydym wrthi'n archwilio opsiynau i ailagor gwasanaethau o leoliad dros dro yng nghanol y ddinas cyn gynted â phosibl.