Rhif | eitem |
---|---|
Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Dinas (Dirprwy Arweinydd)- 2021/11- Fforddiadwyedd y Cynllun Terfyn 20mya Gofynnodd y Cynghorydd Fouweather: Mewn cyfarfod awdurdod yr heddlu yn ddiweddar, holodd yr aelod Plaid Lafur dros Gasnewydd a fyddai'r heddlu'n darparu adnoddau ychwanegol i blismona’r terfynau cyflymder o 20mya. Dywedwyd wrth yr aelod bod dwy ardal beilot yng Ngwent ac mai Casnewydd yw un ohonynt. Byddai'r penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid gweithredu'r terfynau cyflymder hyn yn barhaol yn cael ei wneud ar ôl i'r cynllun peilot ddod i ben.
O ystyried swm sylweddol o arian sydd eisoes wedi'i wario ar y cynllun hwn, a fydd y cyngor yn gallu adennill costau gweithredu a dileu'r cynllun hwn pe penderfynid peidio â pharhau ag ef?
Rwy'n deall mai arian Llywodraeth Cymru yw hwn, ond mae'n werth cofio nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw arian mewn gwirionedd gan fod ganddynt arian trethdalwyr.
Atebodd y Cynghorydd R. Jeavons: Fel y gwyddoch, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi y dylid cyflwyno terfyn cyflymder 20mya cenedlaethol fel mater o drefn ar gyfer ardaloedd preswyl yng Nghymru cyn gynted â phosibl.
Nid yw'r awdurdod wedi mynd i gostau ar gyfer treialon diogelwch ar y ffyrdd sy'n cynnwys cyflwyno cynlluniau 20mya, felly nid yw’r cwestiwn am y Cyngor yn adennill costau yn berthnasol yn yr achos hwn.
Yn ogystal, gwnaeth y Tasglu 20mya, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i ystyried y terfyn diofyn newydd, nifer o argymhellion, a derbyniwyd pob un ohonynt gan Lywodraeth Cymru, a oedd yn cynnwys darparu adnoddau ychwanegol i awdurdodau priffyrdd lleol i weithredu'r newidiadau. Felly, nid yw'r Cyngor yn disgwyl unrhyw gostau yn ymwneud â'r cynnig hwn.
|