Agenda

2021/12: Lefelau Llygredd o fewn Langstone a’r Cyffiniau, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Mercher, 28ain Gorffennaf, 2021

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Drwyddedu a Rheoleiddio: 2021/12- Lefelau Llygredd o fewn Langstone a'r Cyffiniau

Gofynnodd y Cynghorydd Routley:

 

Pa gynlluniau sydd gennych ar waith i fonitro a lliniaru lefelau llygredd yn Langstone a'r cyffiniau?

 

Atebodd y Cynghorydd Truman:

 

Byddwn yn cyfeirio'r Cynghorydd Routley at fy ymateb manwl i'w gwestiwn am fonitro ansawdd aer yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor. O ran Langstone a Llanmartin, nid ydym yn monitro tiwbiau tryledu ar hyn o bryd gan nad ydynt yn feysydd sy'n peri pryder. Fodd bynnag, rydym yn adolygu ein lleoliadau monitro bob blwyddyn ac efallai y gallwn ystyried a ellir cefnogi lleoliad monitro yn yr ardaloedd hyn o fis Ionawr 2022.  

 

Ar hyn o bryd rydym yn monitro mewn ardaloedd sydd â hanes o ffactorau lluosog yn cyfrannu at ansawdd aer ac felly’n peri pryder sy'n haeddu ymchwiliad pellach. Fel arfer, mae'r holl ffactorau hyn yn bresennol, a hynny’n gallu  arwain at dorri'r nod ansawdd aer (AQO) ar gyfer nitrogen deuocsid (crynodiad cyfartalog blynyddol 40ug/m3 mewn lleoliad sampl). Ffactorau arwyddocaol yw presenoldeb canionau stryd lle gellir rhwystro gwasgaru allyriadau, ffyrdd sy'n cael eu defnyddio'n drwm, a thraffig stond â pheiriannau'n rhedeg; fel arfer mae'r holl ffactorau hyn yn bresennol ar safleoedd rydym yn edrych ar nhw.

 

Bob blwyddyn rydym yn adolygu safleoedd tua 70 o leoliadau yr ydym yn eu monitro. Lle rydym yn fodlon bod o leiaf 5 mlynedd o ddata wedi'i gasglu nad yw'n dangos unrhyw duedd tuag at dorri'r AQO, yna gallwn ystyried adleoli'r tiwbiau tryledu i leoliadau newydd sy'n peri pryder yr ydym wedi'u nodi neu wedi cael gwybod amdanynt.

 

Nid oes gennym unrhyw gynlluniau lliniaru ar gyfer Langstone a'r cyffiniau gan nad oes unrhyw broblemau wedi'u nodi yn yr ardal hon ar hyn o bryd. Yr unig eithriad i hyn yw coridor yr M4 lle mae terfyn cyflymder o 50mya mewn grym er mwyn lleihau nifer y cerbydau sy'n gollwng allyriadau cerbydau.

 

Mae'n bosibl bod ymyriad yr M4 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyfrannu at y gwelliannau a welwyd mewn lefelau nitrogen deuocsid y mae'r CDC wedi'u gweld mewn ardaloedd fel Ardal Rheoli Ansawdd Aer Sain Silian (AQMA); mae'r AQMA ar gyfer Sain Silian wedi'i nodi i'w ddirymu gan CDC a LlC yn ddiweddarach eleni.