Cofnodion

2021/13: Ysgol Sain Silian, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Mercher, 28ain Gorffennaf, 2021

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau: 2021/13- Ysgol Sain Silian

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd Routley:

 

O ystyried eich datganiad yn y cyngor diwethaf yngl?n â'ch swydd fel Cadeirydd Llywodraethwyr yn Ysgol Sain Silian, onid yw'r sefyllfa hon yn anghydnaws â'ch cyfrifoldeb presennol fel Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau?

 

Atebodd y Cynghorydd Davies:

 

Pan fydd ysgol mewn categori Estyn mae angen arweinyddiaeth gref, effeithiol a chyson arni.  Bu llawer o newidiadau yn arweinyddiaeth yr ysgol dros y flwyddyn ddiwethaf ac rwy'n hyderus bod fy rôl barhaus yn rhoi sefydlogrwydd a chyfeiriad diogel i'r ysgol. Yn ystod ymweliad monitro diwethaf Estyn, gwelodd yr arolygwyr lawer o gynnydd. Mae'r ysgol ar gynnydd ac rwyf wedi ymrwymo i gefnogi'r ysgol nes bod Sain Silian 'o leiaf' allan o gategori Estyn.

Fe'm cynghorwyd gan y Swyddog Monitro nad oes rheswm cyfreithiol pam na all yr Aelod Cabinet dros Addysg fod yn Gadeirydd y Llywodraethwyr. Rwyf yn gwbl glir na fyddwn yn gallu cymryd rhan mewn unrhyw benderfyniadau ffurfiol gan Aelodau Cabinet yn ymwneud ag Ysgol Sain Silian neu sy'n effeithio arni.  Pe bai'r sefyllfa honno’n codi, byddai penderfyniadau o'r fath yn cael eu trosglwyddo i'r Arweinydd. Nid oes unrhyw rwystr i'm rôl barhaus fel Cadeirydd y Llywodraethwyr.