Cofnodion

2021/14: System Archebu’r Ganolfan Gwaredu Gwastraff, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Iau, 29ain Gorffennaf, 2021

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cwestiwn ar unrhyw adeg ar gyfer yr Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau'r Ddinas (Dirprwy Arweinydd): 2021/14- System Archebu'r Ganolfan Gwaredu Gwastraff

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd Fouweather:

 

Rwy'n derbyn cwynion gan drigolion am system archebu’r domen. Mae trigolion yn teimlo nad oes angen i'r broses hon barhau  ac maent yn gofyn i'r system flaenorol gael ei rhoi ar waith unwaith eto.  Rwy’n cytuno â'r trigolion y byddai'n llawer gwell bellach pe bai pobl yn gallu cael gwared ar eu sbwriel unwaith eto heb orfod gwneud apwyntiad.

 

A fyddai'r aelod cabinet nawr yn cytuno i ddychwelyd i'r system flaenorol?

 

Atebodd y Cynghorydd Jeavons:

 

Nid oes unrhyw gynlluniau i ddychwelyd i'r system flaenorol a ddefnyddiwyd yn y CAGC.

 

Mae'r system archebu sydd wedi bod ar waith dros flwyddyn wedi;

-        dileu unrhyw giwio ar yr SDR 

-        gwell rheolaethau atal tipio gwastraff amhreswyl,

-        cynyddu'r gyfradd ailgylchu o 65% yn 19/20 i dros 90% yn 20/21

 

Cyflwynwyd y system a weithredwyd i ddechrau o ganlyniad i bandemig Covid-19 yn gyflym, ond ers hynny mae wedi gwella ymhellach gan alluogi dros 130,000 o ymweliadau llwyddiannus gan drigolion Casnewydd.

 

Mae'r perfformiad gwell hwn wedi arwain at y cyfleuster yn ddiweddar yn derbyn gwobr am fod y safle CAGC gorau yn y DU.