Cofnodion

2021/16: Buddsoddi i Uwchraddio Draeniau Pentref Llanwern, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Llun, 16eg Awst, 2021

Eitemau
Rhif eitem

1.

Dirprwy Arweinydd/Yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau'r Ddinas: 2021/16 - Buddsoddi i Uwchraddio Draeniau Pentref Llanwern

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd Kellaway:

 

A fyddai'r aelod cabinet yn cytuno â’r teimladau yn yr e-bost gwreiddiol (gan breswylydd) ynghylch y ffaith bod yr oedi a’r oedi ychwanegol wrth ddiogelu pentref Llanwern drwy beidio â buddsoddi yng nghynnig Hyder i uwchraddio draeniau yn rhoi'r pentref a'r gymuned ehangach a'r ddinas mewn perygl o lifogydd? Os felly, pam mae'r weinyddiaeth hon yn caniatáu oedi o'r fath?

 

Nid wyf yn credu bod hwn yn gwestiwn gweithredol - dim ond barn ar y weinyddiaeth hon, ei maes cyfrifoldeb, ei safbwyntiau a’i blaenoriaethau.

 

Ymateboddy Cynghorydd Roger Jeavons:

 

Cyflawnwyd cynllun gwreiddiol Hyder yn 2005 . Ers hynny, bu nifer o feini prawf dylunio a newidiadau statudol oherwydd y newid yn yr hinsawdd. Yn ddiweddar, rydym wedi cynnal adolygiad llawn o'r adroddiad ac rydym yn ystyried ateb parhaol mwy addas ac effeithiol arall gan na fyddai cynllun Hyder yn amddiffyn trigolion yn llawn yn ystod y tywydd mwyaf garw.

 

Mae'r adolygiad hwn yn cael ei weithredu gyda datblygwyr ar y cyd gyda'r nod o ddatblygu ateb parhaol yn fuan. Cynhaliwyd arolwg tanddaearol yn ddiweddar ac mae’r diffygion a nodwyd wedi'u hatgyweirio yn y system bresennol.

 

Mae ymchwiliadau parhaus gyda phartïon â diddordeb gan gynnwys CNC , NR, CDC, a’r ddau ddatblygwr yn effeithio ar brosesau rheoli d?r stormydd

Rydym i gyd wedi ymrwymo'n llwyr i ddatrys y mater hwn fel mater o frys i gefnogi trigolion y ward.