Rhif | eitem |
---|---|
Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden: 2021/17 - Cau Parciau ac Ardaloedd Chwarae Cofnodion: Gofynnodd y Cynghorydd M Evans:
Faint o feysydd ac ardaloedd chwarae sydd ar gau ledled y ddinas ar hyn o bryd?
A yw'r Aelod Cabinet yn cytuno â mi ei bod yn hanfodol bwysig eu hailagor cyn gynted â phosibl, yn enwedig yn ystod gwyliau'r haf?
A allwch hefyd nodi'r amser cyfartalog y mae'n ei gymryd i wneud gwaith atgyweirio?
Ymatebodd y Cynghorydd Debbie Harvey:
Mae'r Cyngor yn gweithredu 54 o ardaloedd chwarae ledled y ddinas ac ar hyn o bryd mae 5 ar gau oherwydd fandaliaeth neu ddifrod.
Bydd amseroedd atgyweirio’n amrywio yn dibynnu ar fath y gwaith atgyweirio a ph’un ai oes rhaid cynhyrchu rhan benodol, a all gymryd hyd at 12 wythnos.
Gwneir atgyweiriadau llai fel disodli cadwyni siglo, llwyni, gefynnau, seddi ac ati ar sail blaenoriaeth ac fel arfer cânt eu cwblhau o fewn tair wythnos.
Rydym bob amser yn ceisio cadw’r ardaloedd hyn ar gau am y cyfnodau byrraf posibl, ond rhaid i ni sicrhau bod yr holl gyfleusterau chwarae yn ddiogel i'w hagor.
|