Cofnodion

2021/18: Lleihau Terfynau Cyflymder o Amgylch Ysgolion, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Llun, 16eg Awst, 2021

Eitemau
Rhif eitem

1.

Yr Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau: 2021/18 - Lleihau Terfynau Cyflymder o Amgylch Ysgolion

Cofnodion:

Gofynnodd yCynghorydd R Mogford:

 

Ar ôl gofyn cwestiwn yng nghyfarfod y Cyngor llawn ynghylch terfynau cyflymder 20MYA wrth fynedfeydd Ysgol Gynradd Langstone cefais yr ymateb canlynol gan eich cydweithiwr, y Cynghorydd Jeavons.

"Mewn ymateb i'ch cwestiwn atodol a godoch yng nghyfarfod y Cyngor ar 20 Gorffennaf 2021 ynghylch pennu terfynau cyflymder y briffordd wrth Ysgol Langstone. Gallaf gadarnhau bod parth 20mya a mesurau arafu traffig ar waith wrth y fynedfa i gerddwyr i ysgol Langstone. Mae mynedfeydd ychwanegol (oddi ar y ffordd) oddi ar Old Roman Road a Robin Hood Lane i gerbydau. Nid oes troedffyrdd ar y ffyrdd hyn.”

Yn eich rôl fel yr Aelod Cabinet dros Addysg, fy nghwestiwn yw: a allwch roi cymorth i'r ymgyrch leol hon i leihau'r terfyn cyflymder ar Old Roman Road?

 

Gallaf gasglu o'i ymateb nad yw'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau’r Ddinas yn bwriadu cefnogi neu hyd yn oed yn gallu gweld yr angen i wneud mynedfeydd/allanfeydd ysgolion mor ddiogel â phosibl. Sylwaf hefyd, o ystyried nad oes palmentydd/llwybrau troed ar Old Roman Road, fod yr angen am gyflymder traffig is hyd yn oed yn fwy hanfodol.

Ar nodyn tebyg ond ehangach, a ydych yn argyhoeddedig bod POB ysgol yng Nghasnewydd yn elwa o'r terfynau cyflymder cywir (20mya yn ddelfrydol) wrth eu mynedfeydd/allanfeydd?

Ymatebodd y Cynghorydd D Davies:

 

Mae mynedfa'r ysgol oddi ar Old Roman Road yn gweithredu fel mynedfa i gerbydau ac ynghyd ag Old Roman Road, nid oes arni droedffordd i gerddwyr na darpariaeth arall iddynt ei defnyddio.

 

Mae'r fynedfa i gerddwyr a hyrwyddir ar hyd Tregarn Road, lle mae mesurau arafu traffig a therfyn cyflymder 20mya. Yn ogystal, lle mae plant yn teithio i'r ysgol mewn car, mae'r ysgol yn cynnig cyfleusterau gollwng i gerbydau ar wahân ar hyd Robin Hood Lane.

 

Byddwch yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ei bwriad i leihau'r terfyn cyflymder rhagosod cenedlaethol o 30mya i 20mya yng Nghymru.

 

Fe'm hysbyswyd bod y rhan o Old Roman Road sy'n mynd heibio i'r ysgol â therfyn cyflymder 30mya ar hyn o bryd ac felly bydd yn cael ei hasesu’n rhan o'r bwriad i gyflwyno'r terfyn cyflymder rhagosod newydd.

 

Er gwaethaf canlyniad yr asesiad, nid yw'r fynedfa hon yn cael ei hyrwyddo fel mynedfa i gerddwyr oherwydd diffyg cyfleusterau i gerddwyr ar y safle ac oddi arno.

 

O ran gweithredu terfyn cyflymder 20mya wrth ysgolion ledled y ddinas ac yn unol â'r canllawiau presennol ar bennu terfynau cyflymder ac asesiadau o addasrwydd ac angen, mae gan tua 51% o ysgolion derfynau cyflymder 20mya wrth eu prif fynedfeydd i ddysgwyr.