Cofnodion

2021/22: Codi Sbwriel ar Ffordd Tipio Anghyfreithlon, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Llun, 25ain Hydref, 2021

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau'r Ddinas: 2021/22 - Codi Sbwriel ar Ffordd Tipio Anghyfreithlon

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd Mogford:

 

Yn dilyn fy nghyfres o gwestiynau ar y ffordd i nunlle; a yw'r Cyngor hwn mewn gwirionedd yn caniatáu’r gweithgaredd hwn gan wirfoddolwyr?

Pa asesiadau risg sydd wedi'u cynnal er enghraifft? Pa offer diogelwch sy'n cael ei roi?

Pa effaith wirioneddol y disgwylir iddo ei chael o ystyried y ffaith bod contractwyr yn cael eu cyflogi i gynnal y gwaith yn broffesiynol?

 

Atebodd y Cynghorydd Jeavons:

 

Rhoddwyd y wybodaeth y gofynnwyd amdani i’r Aelodau mewn seminar diweddar ar 24 Mehefin 2021 y cawsoch eich gwahodd iddi. Dosbarthwyd y cyflwyniad hefyd ar yr un diwrnod.

 

Rhestrir rheolau a chyfrifoldebau ynghylch grwpiau codi sbwriel ar wefan y Cyngor a gellir eu gweld drwy ddefnyddio'r ddolen ganlynol.

https://www.newport.gov.uk/en.Waste-Recycling/Litter-picking/Community-litter-picks.aspx

 

Yn yr achos penodol hwn, mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Taclo Tipio Cymru, Heddlu Gwent, cynghorwyr ward a chymuned a grwpiau cymunedol lleol ers blynyddoedd lawer.

 

Cynhelir asesiad risg llawn o’r holl waith partneriaeth o'r fath cyn bwrw ymlaen.