Rhif | eitem |
---|---|
Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau'r Ddinas: 2021/23 - Pont Bassaleg Cofnodion: Gofynnodd y Cynghorydd C. Townsend:
Bydd Arweinydd y Cyngor yn pryderu mai dim ond pedwar archwiliad a gofnodwyd sydd wedi'u cynnal o hen bont Bassaleg yn ystod y 32 mlynedd diwethaf. Gwn hefyd y bydd yr Arweinydd yn ddiolchgar bod y camau gweithredu uniongyrchol diweddar wedi atal anaf posibl neu golli bywyd.
Fodd bynnag, mae'n bwysig bod gwersi'n cael eu dysgu a bod mesurau'n cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod arolygiadau'n cael eu cynnal, eu hadrodd a'u craffu. A all yr Arweinydd gadarnhau’r canlynol:
- Cynhelir ymchwiliad arbennig i’r gwaith o archwilio'r drefn arolygu bresennol a bod hyn yn cael ei adrodd i bwyllgorau craffu perthnasol y Cyngor yn ogystal â'r Cabinet?
- Rhoddir cynllun ar waith i atal ailadrodd, ond yn bwysicach, a fydd yn rhoi hyder i drigolion Casnewydd fod yr holl asedau a strwythurau angenrheidiol yn cael eu harolygu'n rheolaidd a’u bod yn ddiogel?
Atebodd y Cynghorydd R. Jeavons:
Nid wyf yn si?r pam y mae'r Cynghorydd wedi cyfeirio at gyfnod o 32 mlynedd, gan na allaf roi sylw ar yr hyn a ddigwyddodd gryn dipyn o amser yn ôl.
Gallaf ddweud bod y bont y cyfeiriwyd ati wedi'i harchwilio yn 2018 ac yna eto, eleni, sy'n cyd-fynd â'n trefn archwilio.
Nid yw'r materion diweddar a arweiniodd at gau'r bont yn ymwneud â phroblemau gyda strwythur y bont. Mae sgwrio yn afon Ebwy wedi effeithio ar y sylfaen o dan y bont a bu'n rhaid mynd i'r afael â hynny.
Mabwysiadwyd y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd ddwy flynedd yn ôl ar ôl ymgynghori'n llawn â'r pwyllgor craffu perthnasol.
|