1. A-Y o’n Gwasanaethau
  2. A
  3. B
  4. C
  5. Ch
  6. D
  7. Dd
  8. E
  9. F
  10. Ff
  11. G
  12. Ng
  13. H
  14. I
  15. L
  16. Ll
  17. M
  18. N
  19. O
  20. P
  21. Ph
  22. R
  23. Rh
  24. S
  25. T
  26. Th
  27. U
  28. W
  29. Y

Cofnodion

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau'r Ddinas: 2021/24 - Safleoedd Bws yn Ystâd Betws

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd J. Jordan:

 

Yn ôl yn 2017/18, anfonais e-bost i wasanaethau'r ddinas yngl?n â'r safleoedd bws, rhai wedi’u difrodi a rhai heb lochesi, yn ystâd Betws.

 

Yr ymateb a gefais oedd nad oedd arian ar gael, a bod y Cyngor yn chwilio am arian eto a dywedwyd yr edrychir ar y sefyllfa pan fydd arian ar gael. 

 

Rwy'n sylweddoli bod COVID-19 wedi tarfu ar fywyd dros y 18 mis diwethaf ond mae braidd yn rhyfedd bod safle bws y tu allan i ysgol parc Malpas wedi'i adnewyddu.

 

Felly pam nad yw'r rhai ym Metws wedi cael eu gwneud?

 

1. Felly, a allwch chi roi dyddiad i mi o ran pryd y bydd y rhain yn cael eu gwneud?

 

2. A yw'r arian wedi'i gymeradwyo ar gyfer y safleoedd bws newydd?

 

Atebodd y Cynghorydd R. Jeavons:

 

Mae arian wedi’i gael, drwy gais am arian gan Grant Llywodraeth Cymru, i brynu a gosod nifer o lochesi i deithwyr bysus i gymryd lle asedau sydd wedi cyrraedd diwedd eu bywyd gweithredol neu sydd wedi mynd heibio iddo.

 

Mae’r llochesi’n cael eu gosod mewn ardaloedd penodol i sicrhau arbedion maint gyda’r rhai cyntaf wrthi’n cael eu gosod yn ward Ringland.

 

Wedyn caiff llochesi eu gosod yn ward Betws mewn tua 4 wythnos.

Nid yw'r arian a dderbynniwyd yn ddigon i fynd i'r afael â'r holl lochesi y nodwyd bod angen eu hadnewyddu ledled y ddinas. Fodd bynnag, caiff ceisiadau pellach am arian eu gwneud ar ddechrau 2022 gyda'r bwriad o gyflwyno'r rhaglen adnewyddu ymhellach.

 

Cafodd y lloches bws y tu allan i Ysgol Parc Malpas ei dinistrio mewn damwain car ac felly talwyd am y gwaith o’i hadnewyddu drwy arian yswiriant.