Rhif | eitem |
---|---|
Cwestiwn i'r Arweinydd 2021/25 - Treth Gyngor Cofnodion: Gofynnodd y Cynghorydd D. Fouweather:
A allwch ddweud wrthyf a yw'r cyngor yn bwriadu cynyddu cyfraddau'r dreth gyngor ar ail gartrefi neu gartrefi sy'n cael eu defnyddio fel llety gwyliau yng Nghasnewydd?
Atebodd yr Arweinydd:
Ni fu unrhyw ystyriaeth na phenderfyniad dilynol ar y mater hwn. Mae nifer yr achosion o ail gartrefi a llety gwyliau wedi'u dodrefnu yn y ddinas yn fach iawn.
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori â'r holl Awdurdodau Lleol a phartïon eraill ar y materion hyn a materion cysylltiedig eraill sy'n ymwneud â'r Dreth Gyngor. Fel y nodwyd uchod, ychydig iawn o effaith a gaiff yng Nghasnewydd. |