Cofnodion

2021/26: Effaith Arddangosfeydd Tân Gwyllt ar yr Amgylchedd a Bywyd Gwyllt, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Llun, 13eg Rhagfyr, 2021

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cwestiwn i'r Arweinydd: 2021/26 - Effaith Arddangosfeydd Tân Gwyllt ar yr Amgylchedd a Bywyd Gwyllt

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd Mogford:

 

O ystyried yr Argyfwng Ecolegol ac Amgylcheddol a ddatganwyd yn ddiweddar sut y gall Cyngor Dinas Casnewydd bellach gefnogi a noddi arddangosfeydd tân gwyllt? 

 

Siawns bod pob un ohonoch yn ymwybodol o'r effeithiau y mae tân gwyllt yn eu cael ar ein hamgylchedd, ein bywyd gwyllt a'n hanifeiliaid anwes.

 

Yn yr oes sydd ohoni oni fyddai'n well cael arddangosfeydd amgen, efallai gyda sioeau laser er enghraifft?

 

I gefnogi'r pryderon hyn, mae llawer o gyfeiriadau at effeithiau negyddol tân gwyllt, mae un enghraifft o lawer ar gael isod.

 

'Mae tân gwyllt yn gyrru coctel o gemegau i'r atmosffer, a gall llawer ohonynt niweidio pobl a'r amgylchedd.  Daw'r lliwiau byw mewn arddangosfeydd tân gwyllt o gyfansoddion metelig fel bariwm neu alwminiwm a all gael effeithiau negyddol ar iechyd anifeiliaid a phobl.

Yn ogystal, er mwyn cynhyrchu'r ocsigen sydd ei angen ar gyfer ffrwydrad, mae llawer o dân gwyllt yn cynnwys ocsideiddwyr a elwir yn bercloradau.  Gall y rhain hydoddi mewn d?r, halogi afonydd, llynnoedd a d?r yfed.'

 

https://www.sciencefocus.com/planet-earth/are-fireworks-bad-for-the-environment/

 

Atebodd yr Arweinydd:

 

Mae Arddangosfeydd Tân Gwyllt yn cael eu rheoleiddio gan gyfraith y DU.  Yn benodol, Deddf Tân Gwyllt 2003 a Rheoliadau Tân Gwyllt 2004.  Ar hyn o bryd, mae gan yr awdurdod lleol bwerau cyfyngedig yn y maes hwn. 

 

Ni ariannwyd yr arddangosfa tân gwyllt Nadolig gan Gyngor Dinas Casnewydd, ond yn hytrach AGB Casnewydd, sy'n cynrychioli masnachwyr canol y ddinas.  Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gyfrifol am y goleuadau Nadolig, sydd wedi cael eu disodli gydag LEDs ecogyfeillgar. 

 

Rwyf wedi gofyn i swyddogion gysylltu â'r AGB i edrych ar ba opsiynau y gellir eu hystyried. 

 

Bydd y cynghorydd yn ymwybodol ein bod yn ymgynghori ar ein cynllun newid yn yr  hinsawdd ar hyn o bryd a gall y cyngor ystyried gwahardd tân gwyllt ar ei dir ei hun.  Bydden i’n argymell bod y cynghorydd yn ymateb i'r ymgynghoriad hwn.