1. A-Y o’n Gwasanaethau
  2. A
  3. B
  4. C
  5. Ch
  6. D
  7. Dd
  8. E
  9. F
  10. Ff
  11. G
  12. Ng
  13. H
  14. I
  15. L
  16. Ll
  17. M
  18. N
  19. O
  20. P
  21. Ph
  22. R
  23. Rh
  24. S
  25. T
  26. Th
  27. U
  28. W
  29. Y

Cofnodion

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cwestiwn i'r Arweinydd: 2022/02 - Ymholiadau Cyflog ynghylch Rôl Newydd y Llywydd

Cofnodion:

Y Cynghorydd R. Mogford:

 

Arweinydd,

 

a) Ydych chi'n cytuno â'ch cydweithiwr a'ch cyn-Aelod Cabinet, y Cynghorydd Whitcutt, fod y taliad cydnabyddiaeth ychwanegol a grybwyllwyd ar gyfer rôl newydd y Llywydd yn swm 'pitw'?

 

b) Hefyd, a allwch gadarnhau neu wadu mai cyflog a chyfraniadau pensiwn cysylltiedig yw'r unig gost ychwanegol ar gyfer y rôl ac na fydd angen unrhyw arian ychwanegol, er enghraifft i dalu 'Dirprwy' Lywydd i ar gyfer absenoldebau ac ati, wrth symud ymlaen.

 

Ymateboddyr Arweinydd:

 

Yn unol ag argymhellion Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2022/23, y costau ychwanegol o benodi Aelod Llywyddu fyddai £8,793 y flwyddyn.  Mae hyn yn cynrychioli'r gwahaniaeth rhwng cyflog sylfaenol Cynghorydd o £16,800 ac uwch gyflog o £25,593.  Yr un lefel o gyflog uwch sy’n cael ei thalu i Gadeiryddion pwyllgorau eraill, y Maer ac Arweinydd yr Wrthblaid.  Felly, ystyrir ei fod yn gymesur â lefel y cyfrifoldeb dan sylw. Yr unig gostau ychwanegol i'r Cyngor fyddai mewn perthynas ag unrhyw gyfraniadau pensiwn sy'n gysylltiedig â'r gwahaniaeth mewn cyflog, a fyddai’n tua £2,000.  Ni thelir taliad cydnabyddiaeth ychwanegol i'r Dirprwy Lywydd.