1. A-Y o’n Gwasanaethau
  2. A
  3. B
  4. C
  5. Ch
  6. D
  7. Dd
  8. E
  9. F
  10. Ff
  11. G
  12. Ng
  13. H
  14. I
  15. L
  16. Ll
  17. M
  18. N
  19. O
  20. P
  21. Ph
  22. R
  23. Rh
  24. S
  25. T
  26. Th
  27. U
  28. W
  29. Y

Cofnodion

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cwestiwn i'r Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden: 2022/03 - Cynlluniau ar gyfer Lles Plant Lleol

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd Mogford:

 

Fel cynghorydd y Ddinas sy'n cynrychioli ward lled-wledig, a allwch ddweud wrthyf pa welliannau neu gynlluniau pendant sydd gennych ar waith er budd bywydau a lles ein plant yn benodol yn Nwyrain y Ddinas a'r ward yr wyf yn ei chynrychioli. Clywaf drigolion yn aml yn dweud nad oes llawer i'r plant ei wneud yn yr ardal.  Ers colli ein canolfan hamdden leol sawl blwyddyn yn ôl, nid yw'n ymddangos bod y sefyllfa'n gwella. 

 

Siawns nad oes cymaint mwy y gall y cyngor ei wneud?

Os na, gadewch i ni fod yn glir fel y gellir rheoli disgwyliadau.

 

Ymatebodd y Cynghorydd Harvey:

 

Rheolir darpariaeth chwarae ardaloedd ar hyn o bryd drwy Asesiad Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae, sy'n nodi anghenion cymunedol a chyfleoedd buddsoddi ac yn ystyried pethau fel darpariaeth chwarae gynhwysol, mynediad, ymgynghori a safonau.  Er enghraifft, yn 2021 gwnaed gwaith atgyweirio i offer yn ardaloedd chwarae Parry Drive, Parc Somerton ac Underwood er mwyn sicrhau bod y cyfleusterau hyn mewn cyflwr da. Cynigir gwelliannau eraill yn Nwyrain y Ddinas hefyd, gan gynnwys Ardal Gemau Amlddefnydd newydd sbon yn Ringland fel rhan o'r cynigion a gyflwynwyd gan BIPAB, uwchraddio cyrtiau tenis Beechwood drwy gyllid gan Chwaraeon Cymru, a chyfarpar newydd ym Mharc Black Ash lle achoswyd difrod gan wefr-yrwyr, sy’n cael ei ariannu gan y Grant Cyfle Chwarae.

 

O ran mynediad i glybiau chwarae yn Nwyrain y Ddinas, datblygwyd y rhain yn Alway ynghyd â darpariaeth ieuenctid yn Moorland a Broadmead, Alway a Ringland. Rydym hefyd yn cynnig darpariaeth chwarae gwyliau yn Alway, Llyswyry a Milton. Rydym wedi cynyddu'r cynnig chwarae i blant ag anghenion cymhleth ac mae hyn bellach yn cael ei gynnig yn ystod pob cyfnod gwyliau ysgol, ar wahân i'r Nadolig, ac mae wedi'i leoli yn Ysgol Uwchradd Llanwern.  Cynigir rhaglenni Cyfoethogi Iach ysgolion yn Alway ac fe'u cynllunnir eto ar gyfer yr haf hwn. Rydym hefyd yn cwmpasu darpariaeth chwarae bellach yn Llanmartin. 

 

Mae gweithwyr datblygu cymunedol yn darparu amserlen o weithgareddau i deuluoedd gan gynnwys datblygu clwb Lego a digwyddiadau gwyliau ar draws y grwpiau oedran. Mae darpariaeth Dechrau'n Deg Cyfrwng Cymraeg hefyd ar gael yn y boreau yn Ringland.     

 

Cynigir iaith a chwarae yn Hyb y Dwyrain a chynigir ymyriadau 1 i 1 drwy'r tîm chwarae yn y cartref. Mae cymorth rhianta a chymorth lleferydd ac iaith yn parhau i gael ei gynnig mewn gr?p ac yn y cartref ac mae hwn ar gael i unrhyw deulu mewn angen ym mhob rhan o'r Ddinas. Mae rhaglenni'r Academi Ieuenctid ac Aspire yn gweithredu yn Alway, Ringland a Moorland a Broadmead.