C1
Yr wyf yn parhau i lobïo am well trafnidiaeth
gyhoeddus ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol, yn enwedig
drwy fy rôl yn Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol
Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac ymgysylltu ag Uned Gyflawni
Burns.
Dilëwyd pwerau'r awdurdod i ddarparu
gwasanaethau bws yn uniongyrchol yng nghanol y 1980au ar ôl
dadreoleiddio o dan lywodraeth y dydd; fodd bynnag, rydym yn parhau
i ddarparu cyfleusterau ategol ac yn ddiweddar rydym wedi sicrhau
cyllid ychwanegol i fynd i'r afael â darpariaeth gwybodaeth
Amser Real yn yr orsaf fysiau ac ymestyn y rhaglen o adnewyddu
safleoedd bws.
C2. Diben y treial Fflecsi yw nodi cyfleoedd ar gyfer
trafnidiaeth gyhoeddus fwy ymatebol.
Mae'r dysgu o'r peilot eisoes yn helpu i nodi galw cudd a
diwygiadau posibl i wasanaethau. Un
enghraifft yw cyflwyno gwasanaeth boreol i drigolion Casnewydd a
gyflogir ym Magwyr.
Mae'r peilot yn cael ei ariannu a'i gaffael yn gyfan
gwbl gan Trafnidiaeth Cymru, a ddiffiniodd yr ardal weithredu yn y
cyfnod prawf hwn.
C3 Fel yr wyf wedi'i amlinellu yn fy ymateb i C1
rydym wedi sicrhau ac yn parhau i sicrhau cyllid gan Lywodraeth
Cymru i gefnogi'r rhwydwaith bysus. Er bod dyhead i ddarparu'r lefel uchaf o
ddarpariaeth, mae gennym ddyletswydd i gydbwyso anghenion a
disgwyliad o fewn adnoddau ...
view the full Cofnodion text for item 1.
|