Cofnodion

2022/05: Teithio am Ddim ar Fysus, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Llun, 14eg Chwefror, 2022

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cwestiwn i'r Arweinydd 2022/05 - Teithio am Ddim ar Fysus

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd M. Evans:

 

Gan eich bod bellach wedi ymrwymo i ddarparu teithio am ddim ar fysus yn y ddinas, sydd i'w groesawu, a wnewch chi ymrwymo hefyd i ddarparu'r un gwasanaeth i'r rhai nad oes ganddynt un rheolaidd, neu nad oes ganddynt wasanaeth o gwbl yn ystod mis Mawrth?

 

Ymateboddyr Arweinydd:

 

O ganlyniad i'r gostyngiad mewn refeniw bysus sy'n gysylltiedig â newidiadau sy'n gysylltiedig â covid mewn tueddiadau teithio, mae'r holl wasanaethau bws yng Nghymru yn cael eu cefnogi'n ariannol ar hyn o bryd drwy gontract Rhwymedigaeth Gwasanaethau Cyhoeddus. Nid yw telerau'r contract hwn yn caniatáu cymorth ar gyfer gwasanaethau ychwanegol oherwydd deddfwriaeth cystadleuaeth a chaffael.  Darperir y cynllun teithio am ddim o fewn yr amgylchedd cyfreithiol hwn ac ni ellir ei ddefnyddio i gefnogi gwasanaethau ychwanegol neu wasanaethau newydd.