1. A-Y o’n Gwasanaethau
  2. A
  3. B
  4. C
  5. Ch
  6. D
  7. Dd
  8. E
  9. F
  10. Ff
  11. G
  12. Ng
  13. H
  14. I
  15. L
  16. Ll
  17. M
  18. N
  19. O
  20. P
  21. Ph
  22. R
  23. Rh
  24. S
  25. T
  26. Th
  27. U
  28. W
  29. Y

Cofnodion

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cwestiwn i'r Arweinydd: 2022/06 - Dathliadau Jiwbilî Platinwm y Frenhines a Man Agored y Frenhines

Cofnodion:

Gofynnodd Y Cynghorydd M Evans:

 

Gyda Dathliadau Jiwbilî Platinwm y Frenhines yn prysur agosáu a allwch ddweud wrthyf beth y mae'r Cyngor yn bwriadu ei wneud i ddathlu'r achlysur pwysig hwn?

 

Beth ddigwyddodd i'r cynnig i ddynodi Ridgeway fel Man Agored y Frenhines, sy'n rhoi amddiffyniad ychwanegol i'r ardal rhag datblygiadau yn y dyfodol?

 

A yw'r Cyngor yn mynd i gynorthwyo preswylwyr drwy roi cyngor am ddim a chau ffyrdd i'r rhai sy'n dymuno gwneud hynny, ac os felly, a allwch roi'r manylion i ni?

 

Atebodd yr Arweinydd:

 

Rwy'n hapus i gadarnhau bod gennym lawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau wedi'u cynllunio ar gyfer Dathliadau'r Jiwbilî, gan gynnwys Llwybr Begwn lle bydd stori o wahanol ddegawdau teyrnasiad y Frenhines yn cael ei hadrodd mewn ffordd ryngweithiol, a gyda’r nos ar yr 2il o Fehefin bydd begwn yn cael ei oleuo ar faes y Frenhines Elizabeth II yn Ringland.  Bydd yn un o fwy na 1500 o fegynau sy'n cael eu goleuo ledled y DU, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Thiriogaethau tramor.  

 

Mae Cinio Mawr hefyd yn cael ei gynllunio a byddaf yn cyhoeddi manylion maes o law.  Rydym hefyd yn annog partïon stryd er mwyn dod â chymunedau at ei gilydd i ddathlu. Nid oes ffi i wneud cais am gau ffyrdd dros dro ac ni chodir unrhyw daliadau ychwanegol ar gyfer mesurau rheoli traffig perthnasol.   Mae'r ddolen i drigolion wneud cais am gau ffordd yn fyw ac ar gael drwy Partïon Stryd y Jiwbilî Platinwm | Cyngor Dinas Casnewydd

 

Rwyf hefyd yn falch o gyhoeddi y bydd pob ysgol ar draws y ddinas yn plannu coeden goffa ar eu tir o dan 'menter Canopi Gwyrdd y Frenhines'.

 

Yn ogystal, rwyf yn awyddus i ddathlu pum ysgol benodol a adeiladwyd yn unol â dyrchafiad Ei Mawrhydi’r Frenhines i'r orsedd. Yr ysgolion hyn oedd Gaer, Maesglas, Malpas Court, Alway ac Ysgol Gynradd Sain Silian.  

 

Bydd yr ysgolion hyn yn cynnal seremonïau plannu coed Jiwbilî Platinwm y Frenhines swyddogol. 

Gwahoddir nifer fach o westeion pwysig hefyd i'r dathliad. Mae'r rhain yn cynnwys yr Arglwydd Raglaw, Uchel-Siryf, y Maer a'r Arglwydd Faeres, yr Aelod Cabinet dros Addysg a Chynghorwyr Ward. Bydd y seremonïau swyddogol hyn hefyd yn cynnwys dadorchuddio Placiau Jiwbilî Platinwm y Frenhines, llyfryn coffa a chaneuon a ysgrifennwyd ac a berfformir gan ddisgyblion yr ysgolion i anrhydeddu'r dathliad mawreddog ac unigryw hwn. 

 

O ran dynodi'r safle yn Ridgeway, mae Meysydd Chwarae Cymru wedi cadarnhau nad ydynt yn bwriadu cael rhaglen amddiffyn mannau agored benodol ar gyfer y Jiwbilî Platinwm.   Mewn unrhyw achos, gellir ond gwneud cais i Meysydd Chwarae Cymru os taw’r Cyngor sy’n berchen ar y man agored a'r ardaloedd coetir, ni allem gynnwys unrhyw dir preifat.

 

Mae swyddogion yn cynghori bod amddiffyniad digonol ar gyfer y safle ar hyn o bryd drwy'r Cynllun Datblygu Lleol a hefyd drwy'r cyfamodau sydd ar waith sy'n cyfyngu ar y defnydd o'r tir fel "Tir Hamdden a Phleser".   Byddai angen caniatâd Ystadau Tredegar ar gyfer unrhyw ddefnydd arall.