Cofnodion

2022/07: Cynlluniau'r Dyfodol i Liniaru Effaith yr Argyfwng Byw, Cwestiynau ac Ymatebion Ffurfiol y Cyngor - Dydd Llun, 11eg Gorffennaf, 2022

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cwestiwn i'r Arweinydd - 2022/07: Cynlluniau'r Dyfodol i Liniaru Effaith yr Argyfwng Byw

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd K. Whitehead:

Braf oedd darllen bod Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent y Cynghorydd Steve Thomas, wrth drafod y dyfodol a'r argyfwng costau byw, wedi gwneud penderfyniad beiddgar i liniaru ei effaith. Rwyf wedi gludo rhywfaint o gynnwys isod a tybed a fyddai ein Harweinydd ein hunain yn ystyried dilyn ei arweiniad? Rwy'n credu y byddai'n gam poblogaidd iawn gan ein hawdurdod pe byddem yn dilyn ei esiampl.

Un pwnc dadleuol yn ystod y chwe mis diwethaf oedd bod rhai aelodau o staff y Cyngor yn colli allan ar daliad o £735 drwy gynllun Cydnabyddiaeth Ariannol Gweithwyr y GIG a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru. Roedd y Cynghorydd Thomas eisiau staff o adrannau datblygu'r gweithlu, gofal plant a chwarae’r blynyddoedd cynnar, teuluoedd yn gyntaf, a Dechrau'n Deg sydd i gyd yn rhan o gyfarwyddiaeth gwasanaethau cymdeithasol y Cyngor ac na dderbyniodd daliad drwy Gynllun Cydnabyddiaeth Ariannol Staff y GIG a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, i dderbyn taliad o £735 gan y Cyngor. Roedden nhw wedi cymhwyso yn wreiddiol ar gyfer taliadau'r llywodraeth ym mis Ebrill, ond fe wnaeth y canllawiau newid wedi hynny.

Atebodd yr Arweinydd:

Roedd y cydnabyddiaeth ariannol yn seiliedig ar feini prawf a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.  Ymatebodd holl staff y Cyngor yn hyblyg i'r heriau sylweddol a ddaeth yn sgil y pandemig, gan weithio'n ddiflino i gynnal parhad gwasanaethau'r Cyngor a rhoi cefnogaeth i drigolion y Ddinas. Byddai cyflwyno cynllun 'tâl atodol' lleol, mwy na’r cynllun cydnabyddiaeth cenedlaethol wedi creu problemau ar draws y gweithlu ehangach, yn ogystal â lleihau argaeledd cyllid er mwyn cefnogi meysydd eraill o angen wrth i'r economi a'n cymunedau adfer ar ôl y pandemig.